Newyddion

Gala Nofio Cenedlaethol yr Urdd

plant

Cafodd Ysgol Y Garnedd gryn lwyddiant yng Ngala Nofio Cenedlaethol yr Urdd ym Mhwll Nofio Rhyngwladol Caerdydd ddiwedd Ionawr. Roedd yr awyrgylch yn drydanol yno a thros fil o bobol yn gwylio’r rasio. Roedd 20 o nofwyr yn cynrychioli’r Garnedd. Uchafbwynt y diwrnod heb os oedd y rasys cyfnewid a bu’n rhaid i’r trefnwyr roi mwy o seddi ar ochr y pwll, gan fod cymaint eisiau gweld y rasys yma. Enillodd Y Garnedd 4 ras gyfnewid ynghyd â nifer o fedalau unigol.

Rasys Unigol
Merched Bl. 5 a 6 Jessica Parry: 1af, 100m Amrywiol Unigol a 1af, 50m Cefn Lisa Morgan: 3ydd, 50m Broga a 3ydd, 50m Pili Pala
Merched Bl. 3 a 4 Emily Parry: 3ydd, 25m Rhydd
Bechgyn Bl. 3 a 4 Hywyn Jones: 3ydd 25m Broga.

Rasys Cyfnewid
Merched Bl. 5 a 6, Seren Gross, Madlen Jones, Lisa Morgan, Jessica Parry: 1af, Ras Gyfnewid Amrywiol a 1af, Ras Gyfnewid Dull Rhydd
Bechgyn Bl .3 a 4, Ifan Owen, Hywyn Jones, Caleb Dwyfor-Clark, Sion Williams: 1af, Ras Gyfnewid Amrywiol a 1af Ras Gyfnewid Dull Rhydd
Llongyfarchiadau mawr i bob un o nofwyr Y Garnedd am nofio cystal. A diolch i’r rhieni a’r teuluoedd i gyd a ddaeth i gefnogi.

Enwau’r nofwyr.

Emily Parry, Ifan Sion, Hywyn Jones, Lisa Morgan, Ifan Owen, Twm Owen, Jessica Parry, Caleb Dwyfor-Clark, Sion Williams, Sali Davies, Anest Lewis, Erin Kendrick, Rhys Jones, Math Jones, Seren Gross, Madlen Jones, Tomos Roberts, Hollie Owen, Elain Gordon-Clark, Ieuan Jones, Cian Gordon-Clark


Cystadleuaeth Pêl-rwyd Ranbarthol yr Urdd

Bu i dîm pêl-rwyd yr ysgol gystadlu yng nghystadleuaeth yr Urdd ar ddydd Mercher Ionawr 19eg yng Nghanolfan Brailsford, Maes Glas, Bangor. Yr oedd y gemau yn rhai cystadleuol iawn gyda phlant Y Garnedd yn perfformio’n wych - Da iawn chi.


Dŵr Cymru

Braf oedd croesawu Mrs Arfona Evans (cyn myfyriwr ym Bl 1 a 2 flynyddoedd lawer yn ôl) sy’n gweithio hefo Dŵr Cymru ar hyn o bryd. Bu’n dangos a thrafod faint o ddŵr oedd pobl a phlant yn ei ddefnyddio wrth frwsio dannedd â’r tap yn rhedeg. Gwnaeth weithgareddau diddorol gyda phlant Bl 2 ac fe ddysgwyd faint o litrau oedd cawod, bath a thynnu dŵr y toiled yn ei ddefnyddio. Bu’r Grŵp Gwyrdd yn gwneud gweithgareddau yn dysgu am gylched dŵr a defnyddio’r peipiau i greu'r daith i’r tai. Diolch yn fawr i Arfona.


Diwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd

plant

Bu diwrnod coch, gwyn a gwyrdd i ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen yn hwyl a sbri unwaith eto. Roedd y plant o’r lleiaf i’r mwyaf yn ‘rocio’ i fandiau Yws Gwynedd, Bryn Fôn, Candelas a Bandana. Diwrnod i’w gofio.

 

 


 

Plant y Garnedd yn estyn dwylo dros y môr

plant

Casglwyd 83 o focsys Nadolig eleni. Bydd y bocsys yn teithio'r holl ffordd i Romania ac yn cyrraedd plant a phobl ifanc y Nadolig yma.
Diolch i’r Cyngor ysgol am sicrhau bod yr ysgol yn cefnogi elusen mor bwysig eto eleni a diolch i bawb a gefnogodd drwy ddod â bocsys yn llawn nwyddau.

.

 

 

 


 

Gala Nofio’r Urdd

Cafwyd diwrnod arbennig yn y pwll nofio. Diolch i bawb am gystadlu a gwneud eu gorau dros yr ysgol a hefyd diolch i’r holl wirfoddolwyr am hyfforddi a chefnogi.
Llongyfarchiadau mawr i’r nofwyr buddugol, fydd yn lwcus iawn yn cael cynrychioli Eryri yng Nghaerdydd ym mis Ionawr.

Emily Parry Dull Rhydd, Merched Bl 3 a 4
Ifan Sion Dull Rhydd, Bechgyn Bl 5 a 6
Hywyn Jones Broga, Bechgyn Bl 3 a 4
Lisa Morgan Broga, Merched Bl 5 a 6
Ifan Owen Cefn, Bechgyn Bl 3 a 4
Emily Parry Cefn, Merched Bl 3 a 4
Twm Owen Cefn, Bechgyn Bl 5 a 6
Jessica Parry Cefn, Merched Bl 5 a 6
Ifan Owen Pili Pala, Bechgyn Bl 3 a 4
Lisa Morgan Pili Pala, Merched Bl 5 a 6
Twm Owen Cymysg Unigol Bechgyn, Bl 5 a 6
Jessica Parry Cymysg Unigol Merched , Bl 5 a 6
Cyfnewid Rhydd Bechgyn, Bl 3 a 4
Cyfnewid Rhydd Merched, Bl 3 a 4
Cyfnewid Rhydd Bechgyn, Bl 5 a 6
Cyfnewid Rhydd Merched, Bl 5 a 6
Cyfnewid Amrywiol, Bechgyn Bl 3 a 4
Cyfnewid Amrywiol, Merched Bl 3 a 4
Cyfnewid Amrywiol, Bechgyn Bl 5 a 6
Cyfnewid Amrywiol, Merched Bl 5 a 6
Cyfnewid Cymysg, Bl 3 a 4

Mae canlyniadau llawn i gael ar wefan yr urdd.

 


Plant Mewn Angen

plant

Diolch i’r cyngor Ysgol am drefnu ein bod fel ysgol yn cofio am elusen bwysig iawn sef Plant Mewn Angen.
Daeth rhan fwyaf o’r plant a’r staff i’r ysgol yn eu pyjamas. Yn ystod y prynhawn roedd hi’n dawel iawn yn yr Adran Iau - nid oedd smic i glywed yna! Roedd pawb yn gorfod bod yn dawel am o leiaf awr! Roedd hyn yn anodd iawn. I rai !!!
Diolch i bawb am gefnogi Plant Mewn Angen. Casglwyd £340.85 - gwych!


.

 


 

 


Offer Chwarae Newydd

plant

Mae offer chwarae newydd wedi cyrraedd yr ysgol! Diolch i'r GRhA, grantiau gan Cyngor Cymuned Pentir a Horizon am ariannu'r offer newydd.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


.

 


 

 


Parc y Faenol

plant

Un bore hydrefol aeth y plant dosbarth derbyn am dro I Barc y Faenol. Daeth bws ‘double deckar’ draw i’r Garnedd i’n cludo i’r Faenol. Roedd hyn yn gynnwrf cyn cychwyn!! Cawsom gyfle i chwarae yn y coed, cyfrif dail a chanu. Braf oedd gweld y plant yn mwynhau byd natur gyda’i gilydd.
Edrychwn ymlaen dychwelyd yn Nhymor y Pasg.

.

 



 

 


Diolchgarwch

plant

Cafwyd gwasanaeth Diolchgarwch arbennig yng Nghapel Berea newydd. Cafodd yr ysgol gyfan sef 300 ohonom gerdded ar hyd llon bost Penrhosgarnedd. Roedd yr haul yn tywynnu a'r plant yn ymddwyn yn ardderchog ar hyd y ffordd.

Cafodd pawb gyfle i fynd i’r set fawr i ganu. Cawsom stori gan y Parchedig Elwyn Richards yn ein hatgoffa i rannu.

Roedd y canu torfol yn atsain drwy’r neuadd. Diolch am wasanaeth i’w gofio ac am y croeso yng Nghapel Berea Newydd.



.

 

 

 


Grŵp Gwyrdd

plant

Mae’r Grŵp Gwyrdd wedi cael ei sefydlu ac wedi cael eu cyfarfod cyntaf. Gobeithio i’r Grŵp fod mor llwyddiannus â 2015/16 a chyflawni gofynion Ysgolion Iach Gwynedd.
.

 






Cyngor Ysgol

plant

Mae’r cyngor ysgol newydd wedi ei sefydlu am y flwyddyn ysgol newydd. Bu i’r aelodau newydd gael eu hethol gan ddisgyblion yr ysgol. Mae’r cyfarfod cyntaf wedi ei gynnal a thrafodwyd llwyddiannau 2015/16 gan osod targedau ar gyfer 2016/17

 


 




Plant Newydd

grwp gwyrdd faner gwyrdd

Erbyn hyn mae pawb wedi ymgartrefu yn eu dosbarthiadau newydd. Rydym yn estyn croeso arbennig i blant newydd y dosbarth Meithrin a’r Derbyn. Croeso i deulu hapus Ysgol y Garnedd.

 






Croeso i Staff newydd

Mae 2 aelod o staff newydd wedi cychwyn yn yr ysgol – Mrs Sioned Roberts a Miss Claire Roberts. Croeso mawr iddynt.


Cadeirio

plant

Cawsom Eisteddfod I’w chofio unwaith eto eleni. Cafodd Catrin Edwards ei chadeirio am ysgrifennu chwip o stori Antur. Yn ail oedd Meilyr Lynch ac yn drydydd Matilda Boyle. Cafodd Morgan Goulding glod am y stori ddoniolaf. Braf oedd croesawu’r beirniad Mr Elfed Williams yn ôl atom i’r ysgol. Cafodd groeso cynnes gan y plant pan gerddodd i mewn i’r neuadd gyda chymeradwyaeth cynnes iawn. Diolch I’r Parchedig Huw John Hughes am fod yn archdderwydd y seremoni. Cawson griw o blant blwyddyn 2 yn gwneud y ddawns flodau ac roeddent yn werth eu gweld. Dyma draddodiad gwych sy’n werth ei chynnal am byth.

 





Pêl-droed Merched Blynyddoedd 5 a 6

plant

Ar nos Fercher, Ebrill 13eg, aeth tîm pêl-droed merched 5 a 6 i Borthmadog i gymryd rhan yn nhwrnament pêl-droed ysgolion cynradd Eryri. Chwaraeodd y tîm yn dda ym Mhort a chafwyd gemau cystadleuol yn erbyn ysgolion Maesincla, Llanrug, Tremadog a Rhostryfan. Cyn mynd i Borthmadog cafodd tîm y merched fynd i Ysgol Bod Alaw ym Mae Colwyn i chwarae gemau cyfeillgar.

 





Pêl-droed Bechgyn Blynyddoedd 5 a 6

plant

Ar nos Lun, Ebrill 18fed, tro tîm pêl-droed bechgyn 5 a 6 oedd mynd i Borthmadog i gymryd rhan yn nhwrnament pêl-droed ysgolion cynradd Eryri. Fel tîm y merched, chwaraeodd tîm yr hogiau yn dda ym Mhort hefyd a chawsant chwarae yn erbyn ysgolion yn cynnwys Llanaelhaearn, Llanrug a Deiniolen. Cyn mynd i gystadlu ym Mhorthmadog daeth timau o ysgolion Nant y Coed a’r Maelgwn (Cyffordd Llandudno) atom i’r ysgol i chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn y ddau dîm bechgyn.

 





Trawsgwlad - Castell Penrhyn

Cafodd criw o blant y Garnedd fynd am y tro cyntaf i gystadleuaeth trawsgwlad i Gastell Penrhyn. Llongyfarchiadau i bawb gymerodd ran. Dyma'r rhai oedd yn fuddugol :

Merched Bl 5 – Ffion Davies - 1af, Lisa Morgan – 2il.
Merched Bl 6 – Gwawr Davies – 1af, Freya Evans – 2il.
Bechgyn Bl 5 – Twm Owen – 1af, Math Jones – 2il, Ifan Sion – 3ydd.
Bechgyn Bl 6 – Wil La Trobe-Roberts – 1af, Joshua Pritchard – 3ydd.


Rygbi

plant

Llongyfarchiadau mawr i’r Tîm rygbi am ddod yn fuddugol yn nhwrnament rygbi’r Urdd. Byddent yn mynd ymlaen i gystadlu yn y rownd genedlaethol ar yr 8 o Fai. Pob lwc iddynt.

 


 

 





Trawsgwlad yr Urdd – Parc y Faenol

Bu rhai plant o flwyddyn 3 a 4 yn rhedeg yng nghystadleuaeth yr Urdd ym Mharc y Faenol. Diolch i’r criw aeth yno a gwneud eu gorau glas - mae’n dipyn o gamp.

Llongyfarchiadau i Huw Williams, Blwyddyn 3 ân ddod yn gyntaf.


Cwis Llyfrau

plant

Llongyfarchiadau mawr i griw Cwis Llyfrau am ddod yn ail yn rownd Gwynedd o’r gystadleuaeth. Da iawn Carys, Cian, Evie a Gwenno.
Dyma eu hadroddiad : Roedd yn Ddiwrnod y Llyfr ar ddiwrnod y cwis llyfrau. Dynes o’r enw Sioned oedd wedi cymryd y gwaith, ac mae hi’n gweithio yn y llyfrgell.
Roedden ni’n teimlo’n hapus a balch o gael ein dewis i’r Tîm Cwis Llyfrau eleni, a deud y gwir roedd hi’n fraint! Buom yn dysgu gweithio fel tîm ac roeddem yn cael cyfle i ymarfer sgwrsio am ein hoff lyfrau cyn mynd ymlaen i drafod y ddau lyfr sef ‘Tudur Budur Sgrech’ a ‘Clem a Bwgan y Sioe’. Rydym wedi cael llawer o hwyl a gobeithio’r gorau!




Tim Pel Rwyd

plant

Ar ddydd Llun, Mawrth 7fed, aeth amryw o enethod Blwyddyn 5 a 6 i Ganolfan Brailsford i chwarae pêl rhwyd. Yr ysgolion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth oedd Y Faenol, Dolbadarn, Glancegin ond yn anffodus ni ddaeth Rhosgadfan i’r twrnament. Dyma sgôr pob gêm:

Faenol 4 - 0 Dolbadarn,
Faenol 3 – 0 Glancegin,
Garnedd 1 – 0 Glancegin,
Dolbadarn 0 – 4 Garnedd
Faenol 2 – 2 Garnedd,
Dolbadarn 1 – 1 Glancegin
Faenol 3 - 2 Garnedd

Diolch I Mrs Farrell-Jones am ein hyfforddi

Gan ,
Eluned ,Freya a Matilda
(aelodau or tîm pêl rwyd)

Eisteddfod yr Urdd
Llongyfarchiadau i ddisgyblion yr ysgol sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn Eisteddfod Cylch Bangor Ogwen yn ddiweddar. Dyma’r canlyniadau - cliciwch yma

Pob lwc i’r rhai buddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol mis Mai, a diolch yn fawr i’r holl athrawon a rhieni am eu cefnogaeth.


Sioe Tag a Jambori
Ar ddydd Llun Ionawr y 18fed bu i bawb o flynyddoedd 5 a 6 gael gwahoddiad i wylio sioe Tag S4C, canu mewn jambori a chael gweithdy gan fardd plant Cymru. Yr oedd yn ddigwyddiad arbennig yma yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Tenis Caernarfon i hyrwyddo’r Gymraeg. Bu bron i 2000 o ddisgyblion ysgolion Gwynedd fynychu’r digwyddiad arbennig yma a phawb wedi llwyr fwynhau. Diolch i S4C am y gwahoddiad.


Gala nofio Genedlaethol yr Urdd

grwp gwyrdd baner gwyrdd

Llongyfarchiadau mawr i’r nofwyr a fu’n cystadlu yng Ngala Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn Ionawr 23ain. Yr oedd safon y nofio yn uchel iawn gyda phawb o’r Garnedd yn perfformio’n wych - Da iawn chi. Daeth Twm Owen (ar y cefn), Jessica Parry (dull rhydd) a Josh Pritchard, Twm Owen, Ifan Siôn a Rhys Meurig ( ras gyfnewid dull rhydd) yn ail drwy Gymru. Diolch yn fawr iawn i’r hyfforddwyr a fu’n paratoi’r plant ac i’r rhieni am ddod â’r plant i lawr i Gaerdydd am y penwythnos.

Enwau’r nofwyr.

Josh Pritchard
Rhys Meurig Jones
Twm Owen
Ben Davies
Wil La Trobe-Roberts
Ifan Siôn
Seren Gross
Jessica Parry
Lisa Morgan
Llio Mutembo
Madlen Jones
Gwawr Davies
Cian Gordon-Clark


Ymweliad â chaeau Briwas
Ar fore heulog ym mis Ionawr aeth pawb o’r dosbarth Derbyn am dro i Gaeau Briwas. Roedd pawb mewn welis ac wedi lapio fel nionod!!
Cawsom gyfle i ryfeddu at fyd natur gan chwilio am adar a gwrando ar sŵn yr adar bach. Roeddem yn rhyfeddu at y patrwm oedd y welis yn ei adael yn y mwd. Diolch am gael Caeau Briwas mor agos i’r ysgol.


Santes Dwynwen

plant

 

Cafwyd hwyl a sbri ar Ionawr 25ain i ddathlu Dydd Santes Dwynwen. Yr oedd pawb yn cael yn cael dod i’r ysgol wedi gwisgo mewn lliwiau coch neu binc a chawsom brynhawn o hwyl yn dawnsio a mwynhau i gerddoriaeth Gymraeg.

 

 

 

 

 


Cystadleuaeth Gymnasteg Ranbarthol yr Urdd

plant

Yn ddiweddar aeth deuddeg o blant i Ganolfan Hamdden Caernarfon i gystadlu yng Nghystadleuaeth Gymnasteg Ranbarthol yr Urdd. Llongyfarchiadau mawr i bawb am berfformio’n wych. Dyfarnwyd y wobr gyntaf i Ifan Owen ac Alys Banham (gwaith unigol); ail i Ifan a Guto (gwaith pâr);ail i waith grŵp (12 o blant) a thrydydd i Alys Banham, Loti Marshall a Matilda Boyle (gwaith triawd).
Twelve children recently went to Caernarfon Leisure Centre to compete in the Urdd Regional Gymnastics Competition . Congratulations to all for a great performance. First prize went to Ifan Owen and Alys Banham (individual); second to Guto and Ifan (pair); and the full team came second (12 children) and third to Alys Banham, Loti Marshall and Matilda Boyle (working trio).

Enwau’r Tîm Gymnasteg.

Sioned Thomas
Elin Mair Williams
Loti Marshall
Matilda Boyle
Wil La Trobe-Roberts
Guto Elis
Ifan Owen
Esme La Trobe-Roberts
Carys Clement-Evans
Tesni Owen
Chloe Smith
Alys Banham

Yn dilyn y llwyddiant yma, ar y 10fed o Chwefror aeth 12 o ddisgyblion yr ysgol i gystadlu yng Nghystadleuaeth Gymnasteg Genedlaethol yr Urdd. Llwyddodd Ifan Owen ac Alys Banham i gyflwyno dilyniant gymnasteg unigol o safon uchel iawn. Yn ogystal â’r unigolion bu i’r grŵp gymnasteg deithio i lawr a pherfformio’n wych da iawn chi blant. Diolch i Mr Gwyn Owen ac Esther Owen am baratoi’r disgyblion ar gyfer y gystadleuaeth


Cystadleuaeth Pêl-rwyd Ranbarthol yr Urdd

plant

 

Bu i dîm pêl-rwyd yr ysgol gystadlu yng nghystadleuaeth yr Urdd ar ddydd Mercher Ionawr 13eg yng Nghanolfan Hamdden Caernarfon. Yr oedd y gemau yn rhai cystadleuol iawn gyda phlant Y Garnedd yn perfformio’n wych - Da iawn chi.

 

 

 

 


Tylluanod
Daeth tylluanod go iawn i Uned B.l 1 a 2 dechrau Ionawr o Gonwy. Roedd y plant wedi gwirioni gan iddynt fod yn dysgu amdanynt. Cafwyd cyfle i ofyn cwestiynau ac edrych arnynt yn ofalus.


PC Pritchard – Blwyddyn 1 a 2
Daeth P.C. Dylan Pritchard atom unwaith eto i wneud yn siŵr ein bod yn deall beth ydy rheolau a pham bod angen rheolau. Dysgodd y plant am hyn sy’n gywir ac anghywir e.e. - bod angen bod yn glên hefo ffrindiau, ac i beidio dringo ffens. Rydym yn dysgu bob amser yn ei gwmni.


Fy Ymweliad â Techniquest

Ar Ddydd Iau, Ionawr wythfed ar hugain, aeth Blwyddyn 3 a 4 i Techniquest Glyndŵr yn Wrecsam i ddysgu am y synhwyrau a’r corff.

Ar ôl siwrne bws eithaf hir, cyrhaeddom Techniquest. Cawsom ein rhannu yn pum grŵp gan fod yna pum weithgaredd. Roedd yna beth roedd y corff yn gallu gwneud ac wedyn peth arall roedd yn ddrwg i’ch dannedd a hefyd cawsom drio rhoi gyd o’r organau yn ôl yn ei lle (llwyddon ni ddim), ar ôl hynny cawsom wrando ar gyriad ein calon ac yn olaf cael gweld beth roedd y tendon yn gwneud. Ar ôl bod yn y gweithdy cerddon yn ôl i’r ystafell cyntaf yn yr ystafell hon cafon chwarae. Fy hoff beth oedd rhywbeth oedd hefo marc cwestiwn a pan roeddech yn ei gyffwrdd roedd yna sbarciau yn dod. Wedyn roedd yn amser cinio.

Ar ôl cinio aethom i ystafell theatr i ddysgu mwy am yr synhwyrau. Dysgodd y dyn, sef Dafydd, mwy am y corff ac yn ganol hynna roedd rhaid i Morgan a Harri redeg a cael gweld beth oedd cyriad ei calonnau nhw, wrth lwc roedden nhw yr un peth! Ac iw wneud yn hyd yn oed gwell roedd yna dri weithgaredd, lle roeddet yn gallu gweld rhannau o dy gorff yn agosach ac hefyd trio gweld pa asgwrn oedd yn mynd lle ac yn olaf bwrdd i ddefnyddio dy synhwyrau(hwnna oedd fy ffefryn). Wedyn aethom i’r ystafell chware olaf. Yn yr ystafell hon roedd yna ddrysfa o ddrychau (roedd yn eithaf anodd mynd trwy’r ddrysfa), roedd y ddrysfa yma yn mynd mewn i ystafell dywyll. Roedd yna gamera oedd yn dal dy gysgod. Erbyn hyn roedd hi’n amser mynd yn ôl i’r ysgol. Yn ystod y siwrne adref, meddyliais am fy niwrnod arbennig oedd llawn hwyl a dysgu.

Cian Blwyddyn 4


Frân Wen
Cawsom fodd i fyw yn gwylio sioe Dilyn Fi gan y Frân Wen. Braf oedd cael sioe oedd yn arbennig ar gyfer plant oed Meithrin a Derbyn. Llwyddodd y Frân Wen i’n swyno. Roedd wynebau’r plant yn werth eu gweld yn dotio at gelfyddyd gorfforol a dramatig. Cawsom lond troll a hwyl yn ceisio dynwared y symudiadau’r anifeiliaid y jyngl ar ôl mynd yn ôl i’r dosbarth.


Teganau

plant

 

Daeth Mrs Gwenda Williams o’r archifdy at Bl. 1 a 2 i’n dysgu am deganau erstalwm. Roedd ganddi lond troll o deganau diddorol. Clywsom wn pop yn gwneud sŵn clec fawr. Erstalwm roedd y genethod yn gwisgo ffedog a boned i fynd i’r ysgol ac roedd yr hogiau yn gwisgo cap a chrys a gwasgod i fynd i’r ysgol. Gwelsom gylch a ffon oedd wedi cael ei wneud allan o fetel. Mewn potel lemonade roedd marblen ac roedd rhai pobol yn ei thorri er mwyn cael y farblen.

Bedwyr Williams, Blwyddyn 2

 

Clwb yr Urdd yr Ysgol
Mae Clwb yr Urdd wedi cyfarfod bob pnawn Iau ers wythnosau. Mae’r plant wedi cael toreth o brofiadau llawn hwyl e.e. bingo, cwis, dawnsio gwerin a dawns disgo.


Sblish, Sblash - Gala Nofio’r Urdd
Cafwyd diwrnod arbennig yn y pwll nofio. Diolch i bawb am gystadlu a gwneud eu gorau dros yr ysgol.
Mae yna griw lwcus iawn yn cael cynrychioli Eryri yng Nghaerdydd ym mis Ionawr. Dyma’r nofwyr buddugol:
Cian Gordon Clark Pili Pala 25m
Twm Owen Dull Rhydd 50m
Lisa Morgan Broga 50m
Josh Pritchard Broga 50m
Jessica Parry Cefn 50m
Twm Owen Cefn 50m
Rhys Meurig Pili Pala
Ras Gyfnewid genethod 5/6 Dull Rhydd
Ras Gyfnewid bechgyn 5/6 Dull Rhydd
Ras Gyfnewid genethod 5/5 Cymysg
Ras Gyfnewid bechgyn 5/6 Cymysg
Ras Cyfnewid cymysg 5/6 Cymysg

Canlyniadau llawn i gael ar wefan yr urdd.


Plant Mewn Angen

plant

 

Eleni i Blant Mewn Angen cafodd yr ysgol ddiwrnod gwallt gwallgo a dim gwisg ysgol. Roedd pawb hefo gwallt lliwgar neu wallgo. Hefyd lliwiodd y plant lluniau o Pudsey ac aros ynddistaw am gyfnod. Mi lwyddodd yr ysgol gasglu £377.99 tuag at Blant mewn Angen.

 

 

 


Pentref Peryglon
Ar ddydd Mercher 18 fed a’r 19eg o Dachwedd aeth adran iau Ysgol Y Garnedd ar drip i Bentre Peryglon (“Danger Point”) i ddysgu sut i gadw’n ddiogel yn y tŷ , ar lân y môr , mewn llifogydd , yn yr ardd ac gyda thân. Yn gyntaf roedd yn rhaid i ni gael cwis i weld faint roedden ni yn ei wybod yn barod. Ar ôl hynny cawsom ein ddosbarthu i dri grŵp fel roddant yn gallu mynd i wahanol ystafelloedd. Dysgais i beidio tresmasu ar gledrau rheilffordd trên neu byddwch yn cael eich cosbi gyda dirwy o £1000. Hefyd dysgais sut i gadw’n ddiogel ar lân y môr. Dywedodd ein arweinydd bod dysen ni byth fynd ar gwch heb siaced achub, peidiwch a rhoi tennyn bwrdd syrffio ar eich troed oherwydd os oes ton fawr mae’n haws dianc pan maer tennyn ar eich garddwrn a pheidiwch a creu twneli mewn twyni tywod oherwydd unwaith mae’r tywod yn troi’n sych mae’r twyni yn gallu disgyn ar eich pen. Cefais lawer o hwyl yn yr ystafell yno ond wedyn aeth pawb yn ôl i’r ystafell lle cawsom y cwis cyntaf i’w ail-wneud i weld os roedden ni wedi datblygu. Ar ôl cyflawni’r cwis am yr ail waith bu i ni gael sgôr o 87%. Dim ond 35% oedd ein sgôr y tro cyntaf.


Taith Awdur

plant

 

Ar ddydd Mawrth, Tachwedd 25 daeth Meleri Wyn James, awdures hynod boblogaidd Na, Nel! i gynnal gweithdy gyda disgyblion Bl 3 a 4. Ymgyrch yw hon gan y cyngor Llyfrau i annog plant i ymddiddori mewn llyfrau. Yn sicr, bu i’r disgyblion fwynhau'r cyflwyniad. Pwy a ŵyr, efallai bod awduron y dyfodol wedi eu sbarduno i ysgrifennu! Diolch yn fawr i Meleri Wyn Jones am fore gwych.

 

 


Plant y Garnedd yn estyn dwylo dros y môr

plant

 

Casglwyd 80 o focys Nadolig eleni. Bydd y bocsys yn teithio holl ford I Romania ac yn cyrraedd plant a phobl ifanc y Nadolig yma.


Diolch i’r Cyngor am sicrhau bod yr ysgol yn cefnogi elusen mor bwysig eto eleni

 

 


Llongyfarchiadau
Yn ystod mis Medi ganwyd mab bach, Tomos James i Miss Thomas (Bl 5 a 6) a Darren, brawd bach newydd i Sian a Leon. Llongyfarchiadau a dymunwn yn dda iddynt fel teulu.


Diolchgarwch
Cawsom wasanaeth Diolchgarwch yn yr ysgol. Cafodd pawb gyfle i ganu ar y llwyfan a rhoddwyd croeso i’r Parchedig Elwyn Richards i’r ysgol am y tro cyntaf. Ni lwyddwyd i fynd i Gapel Berea oherwydd y tywydd gwlyb. Gobeithiwn fynd a’r plant i Gapel Berea yn ystod y flwyddyn. Diolch i bawb am ddysgu eu gwaith.


Shwmae Sumae!
Dathlwyd diwrnod Shwmae unwaith eto eleni. Dysgodd pawb yn yr ysgol rap a gafodd ei ysgrifennu gan Esyllt Bryn Jones. Heb oes mi fydd y Garnedd yn rapio'r bennill yma am byth!

Shwmae / Su’mae-sut wyt ti?
Cymraeg yw iaith ein hysgol ni!
Mae siarad Cymraeg yn bwysig iawn,
Ei siarad yn y bore a thrwy‘r prynhawn.
Mae siarad Cymraeg yn hwyl a sbri
Cymraeg yw iaith ein hysgol ni!

Gwelwyd clip ohonom ar raglen Heno a gafodd ei ddarlledu ar raglen Dylan Jones.


Parc y Faenol

Parc y Faenol

Mynd ar y bws i Barc y Faenol oedd hanes y dosbarth Derbyn.

Roedd cynnwrf mawr wrth adael yr ysgol a mynd ar y bws. Cawsom gerdded ar hyd llwybr hir gyda’n ffrind gan sylwi ar ddail y coed yn eu holl ysblander! Buon yn brysur yn canu am ddail a gwneud siapiau gyda brigau’r coed.

Edrychwn ymlaen at ddychwelyd yn nhymor y Pasg.

Am fwy o luniau - cliciwch yma

 

 

 


Ymweliad gan Fabi Newydd
Diolch i Miss Stacey am ddod draw gyda’i babi Hari Wyn. Cafodd y dosbarth Derbyn cyfle i ofyn cwestiynau am sut i ofalu amdano. Roedd y plant yn llawn rhyfeddod yn sylwi cyn lleied oedd y babi bach yn gallu ei wneud!! Cawsom hwyl yn meddwl bod Mr Williams wedi bod yn fabi unwaith!


Glynllifon
Ar ddiwrnod braf o Hydref aeth Blwyddyn 1 a 2 am drip i Goed y Glyn! Cafwyd hyd i nodyn gan Cerwyn yn gofyn i ni chwilio am ei gap coll. Er i ni gerdded drwy'r dail, dros bontydd a gwreiddiau welsom ni mo’i gap gwyrdd yn unman! Cawsom bicnic yn yr haul a chyfle i chwilio am eiddew, rhedyn a brigau. Roedd yn drip a hanner a phawb wedi dysgu am y byd o’u cwmpas.


Croesi’r Ffordd
Bu Shirley Williams yn dysgu Blwyddyn 1 a 2 sut i groesi’r ffordd yn ofalus a chafwyd stori a gemau. Daeth Carys Ofalus draw i ddweud ‘helo’.


Ar dy feic!
Cafodd Blwyddyn 6 wersi diogelwch y ffordd ar feicio. Daeth pawb i’r ysgol gyda’i feic a’i helmed. Teimlir bod y ffordd yn brysur ar y naw ac mae sgiliau beicio yn ddiogel yn allweddol.


Melin Llynnon a Porth Swtan

Porth Swtan

Ar Hydref y 9fed 2015, fe aeth blynyddoedd 5 a 6 Ysgol y Garnedd i Borth Swtan a Melin Llynnon. Yn gyntaf, aethom ni i Borth Swtan. Mae Porth Swtan yn draeth bach, gyda hen fwthyn o’r enw Swtan yn sefyll arno. Wrth i ni sefyll wrth y traeth siaradodd Miss Rigby amdan y lle. Wedyn cerddodd pawb i adeilad y drws nesaf i’r bwthyn. Yno, cawsom gwis a gwylio fideo yn sôn sut oedd bywyd yn Swtan. Ar ôl hynny, aethom i mewn i’r bwthyn ei hun. Tostiodd Miss Rigby dost a chawsom ni ei fwyta. Roedd o’n flasus iawn. Cawsom gerdded o gwmpas a chawsom fynd i weld yr ardd. Wedyn aethom ni dros y lôn i The Lobster Pot-caffi bwydydd môr blasus. Cawsom fynd i weld y cimwch a’r crancod. Roedd un o’r cimwch dros 50 oed ac yn werth £100! Roeddem yn cael cyffwrdd y cimwch, er eu bod yn drewi. Roedd yna gimwch yn fabis, a chimwch mewn glas!



Melin Llynnon

Yn olaf aethom i Felin Llynnon - yr unig felin wynt yn gweithio yng Nghymru. Daeth Lloyd y melinydd i’n cyfarfod a siaradodd am y felin. Cawsant fynd i mewn i’r felin a thrio'r peiriannau. Roedd o’n waith caled iawn. Aethant i lawr i’r tai Celtiaid wedyn. Roedd y tai yn eithaf mawr. Roedd yna dân mawr yna a oedd yn gwneud i bawb deimlo’n boeth. Siaradodd Lloyd am fywyd y Celtiaid nesaf. Dysgais lawer o bethau newydd. Roedd y trip yn un da iawn.

Gan Catrin Lois Edwards Bl. 6

Am fwy o luniau - cliciwch yma

 


Trefi Taclus

Trefi Taclus

Mis yma daeth y Brodyr Gregori i ymweld â ni yn Ysgol y Garnedd, Bangor. Dysgon’ nhw i ni sut i beidio taflu sbwriel ar y llawr drwy ganu caneuon hwyliog iawn . Cafodd pob dosbarth amser i fynd dros y caneuon ac mae’n amlwg bod pawb wedi cofio’r geiriau oherwydd mae pobl yn dal i’w canu nhw. Hefyd daeth cymeriadau doniol i’r sioe fel Eli Eco a Ted Taclus, yn gweithio’n galed i gadw’r byd yn lân. Roedd dau byped arall yn y sioe yn dawnsio i’r caneuon, neidio lan a lawr ,dawnsio disco ac actio fel mwncïod hollol wirion! Pob tro roedd e nhw’n neidio fry roedd y Derbyn a Meithrin yn chwerthin. Yn un o’r caneuon dewisodd y Brodyr Gregori Kai John o flwyddyn 5 ac Elin o flwyddyn 4. Gwisgo’n nhw gapiau ochor anghywir ac roedd yn rhaid iddynt ddawnsio i’r rap. Hefyd daeth Mr Griffiths i fyny o’i set a dawnsio , yn dilyn Mrs Farrell-Jones. Roedd yn rhaid iddyn nhw droelli ar eu penolau a gwneud symudiadau hip hop ac i ddweud y gwir roedden nhw’n cŵl iawn! Ar ôl i’r rap orffen cafodd Kai ac Elin bren mesur gwyn, bin ailgylchu bach gyda chlawr symudol â miniwr ynddi. Ni chafodd yr athrawon unrhyw beth ond cymeradwyaeth gan y gynulleidfa lon. Dysgodd y Brodyr Gregori llawer o bethau i ni fel bod plastic, ffoil, cardfwrdd a phapur yn mynd i finiau gwahanol ac os dydych chi ddim yn agos i fin peidiwch â thaflu'r sbwriel ewch ag ef adref gyda chi ac yna rhoi'r sbwriel yn y bin. Roedd y sioe yn ddoniol a diddorol. Diolch i bawb a oedd wedi helpu i greu'r sioe ac wrth gwrs i’r actorion sef Eli Eco, Ted Taclus, Y Brodyr Gregory a’r pypedau . Diolch am ddarllen fy ngwaith .
Llio Cholwe Mutembo Blwyddyn 5.


Techniquest
Ar Hydref 1af cawsom ymweliad gan gwmni Techniquest. Cafodd blwyddyn 3 a 4 hwyl wrth ddysgu am y corff. Dyma rhai o’r gweithgareddau.
Amserydd i weld pa mor gryf oedd eich breichiau, adnabod esgyrn y corff, dysgu am gyhyrau a gweld faint o siwgr sydd mewn gwahanol fwydydd.
Roedd y profiad yn werthfawr ac yn ein helpu gyda’r gwaith thema.

Gan Paul a Gethin Blwyddyn 3 a 4


Grŵp Gwyrdd

grwp gwyrdd faner gwyrdd

Cyn gwyliau’r haf bu i’r ysgol dderbyn y Faner Werdd Eco Ysgolion. Diolch i’r grŵp gwyrdd am eu gwaith caled wrth gyflawni’r gofynion ar gyfer y wobr anrhydeddus yma.

Un o lwyddiannau 2014/15 oedd cyflawni gofynion Ysgolion Iach Gwynedd - Cam 4. Da iawn chi am eich gwaith caled a diolch i bawb a gefnogodd yr ymgyrch.

 

 



Cyngor Ysgol

cyngor ysgol

Mae’r cyngor ysgol newydd wedi ei sefydlu am y flwyddyn ysgol newydd. Bu i’r aelodau newydd gael eu hethol gan ddisgyblion yr ysgol. Mae’r cyfarfod cyntaf wedi ei gynnal a thrafodwyd llwyddiannau 2014/15 gan osod targedau ar gyfer 2015/16.

 

 

 




Plant Newydd

plant plant

Erbyn hyn mae pawb wedi ymgartrefu yn eu dosbarthiadau newydd. Rydym yn estyn croeso arbennig i blant newydd y dosbarth Meithrin a’r Derbyn. Croeso i deulu hapus Ysgol y Garnedd.

 

 

 



Wylfa
Bu i flwyddyn 5 a 6 fynd ar daith Addysgol i’r Wylfa yn ddiweddar. Yno bu iddynt gael gweithdy gwyddoniaeth ar sain. Cafwyd llawer o wybodaeth ar sut mae sain yn cael ei greu a teithio i’r glust. Bu i bawb fwynhau.


Pnawn Coffi McMillan
Ar brynhawn Gwener Medi 25ain bu i’r ysgol gynnal prynhawn coffi McMillan yn neuadd yr ysgol. Diolch i bawb a gyfrannodd gacen neu fisgedi ac i bawb a ddoth i gefnogi. Casglwyd £288.28 at yr achos.


Ras Hwyaid
Cynhaliwyd y ras hwyaid blynyddol gan y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon. Daeth nifer o rieni a phlant i weld dros 200 o hwyaid plastig yn cael eu gollwng ar fore Sadwrn Medi’r 19eg. Diolch i bawb a gefnogodd a llongyfarchiadau i Megan Gill, Meithrin - 1af, Mathew Owen, Bl. 4 - 2il a Caleb Melville, Meithrin - 3ydd.


Crysau Rygbi Newydd

plant

 

Mae Tîm rygbi’r ysgol wedi cael crysau newydd eleni. Diolch yn fawr i Stermat am noddi’r crysau. Mae’r sgwad wedi prysur ddechrau ar eu hymarferion cyn i ni ddewis y Tîm i gynrychioli’r ysgol. Diolch i Mr Rhys Hywel am gynnal yr ymarferion wythnosol.

 



 

 

Eisteddfod Yr Urdd
Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion fu’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r cylch.  Daeth yr ysgol yn 2il yn y Cyflwyniad Dramatig.  Diolch i’r staff am eu hyfforddi ac i’r rhieni am eu cefnogaeth.


Mabolgampau’r Urdd.


Bu i nifer o blant yr ysgol gystadlu yng Nghystadleuaeth Athletau Cylch yr Urdd ar fore Mawrth 9fed o Fehefin. Isod mae’r canlyniadau. Da iawn chi am gystadlu mor frwd.

Enw

Cystadleuaeth

Safle

Twm Owen

Naid Hir Bechgyn B.3/4

3ydd

Elis Rheinallt

Naid Hir Bechgyn Bl.5/6

1af

Bechgyn Bl. 3/4

Ras Gyfnewid BechgynBl.3/4

1af

Merched Bl.3/4

Ras Gyfnewid Merched Bl.3/4

1af

Merched Bl.5/6

Ras Gyfnewid Merched Bl.5/6

1af

Elis Rheinallt

Ras Unigol Bechgyn Bl.5/6 100m

2il

Coby Wyn Jones

Ras Unigol Bechgyn Bl.5/6 100m

3ydd

Twm Wyn Owen

Ras Unigol Bechgyn Bl.3/4 75m

1af

Sky Warrington Figuerido

Ras Unigol Merched Bl.5/6 100m

3ydd

Lisa Morgan

Ras Unigol Merched Bl.3/4 75m

2il

Math Llywelyn Jones

Taflu Gwayffon Bechgyn Bl. 3/4

1af

Ifan Sion

Taflu Pêl Bechgyn Bl.3/4

1af

Seren Mai Owen

Taflu Pêl Merched Bl.5/6

1af

Aeth nifer ymlaen i Athletau Rhanbarth Eryri ar nos Fawrth 16eg o Fehefin  a chael blas ar lwyddiant unwaith eto. Canlyniadau isod;

Enw

Cystadleuaeth

Safle

Elis Rheinallt

Naid Hir Bechgyn Bl.5/6

1af

Bechgyn Bl. 3/4

Ras Gyfnewid BechgynBl.3/4

1af

Merched Bl.3/4

Ras Gyfnewid Merched Bl.3/4

1af

Merched Bl.5/6

Ras Gyfnewid Merched Bl.5/6

1af

Elis Rheinallt

Ras Unigol Bechgyn Bl.5/6 100m

3ydd

Twm Wyn Owen

Ras Unigol Bechgyn Bl.3/4 75m

1af

 

 

 

Llongyfarchiadau mawr iddynt a phob lwc i bawb fydd yn cystadlu yn Athletau’r Urdd Gogledd Cymru ym Mharc Eirias.


Cystadleuaeth Criced Ysgolion Dalgylch Bangor
Bu i’r ysgol gystadlu yng nghystadleuaeth criced Ysgolion Bangor yn ddiweddar gyda dau dîm. Curodd y bechgyn ddwy gêm a cholli dwy. Llwyddodd y genethod i ennill y pedair gêm gan fynd ymlaen i gystadlu yn nhwrnament Criced y Sir ar ddydd Mawrth Mehefin 22ain ym Mhwllheli. Pob lwc i chi yno.


Teithiau diwedd tymor
Mae’r adeg gyffrous o deithiau diwedd blwyddyn yn prysur agosáu. Eleni mae plant y Babanod yn cael mynd am daith i Gelligyffwrdd ger Bethel. Bydd yr Adran Iau yn mentro ychydig ymhellach i Gullivers World yn Warrington. Ychydig o hwyl ar ôl blwyddyn brysur o weithio, cystadlu, perfformio a mwynhau!


Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau i Mrs Heather Russell ar enedigaeth Cain Morgan, Brawd bach i Saul Dafydd. Mae’r pawb o’r ysgol yn cofio atynt.
Ganwyd mab – Matti Wyn i Cheryl  a Steven Roberts yn ystod mis Mehefin, brawd bach i Mili. Llongyfarchiadau mawr a dymunwn yn dda iddynt fel teulu.


Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau mawr i Miss Stacey Davies ar enedigaeth ei mab Hari Wyn. Mae pawb o’r Ysgol yn estyn eu cofion ati yn enwedig ei ffrindiau yn y dosbarth Derbyn a’r Meithrin.


20 milltir yr awr
O’r diwedd!! Rydym yn hynod o hapus gyda’r newyddion bod y briffordd yn cael arwyddion 20 milltir yr awr. Rydym yn prysur greu arwyddion a bydd y rhain yn cael eu harddangos ar hyd y ffordd. Brum brum!


Dŵr

potel ddwr

 

Diolch i’r Cyngor Ysgol am annog plant yr ysgol i yfed dŵr. Cynhaliwyd gwasanaeth a chafodd pawb gyfle i ddysgu am faint o siwgr sydd mewn ambell i ddiod. Yn wir cafwyd dipyn o sioc faint o siwgr oedd mewn rhai diodydd. Mae cyfle nawr i blant yr ysgol brynu potel ddŵr gyda’r logo ysgol arni.

 

 

 

 


Offerynnwyr
Daeth Grŵp Llinynnol Benyounes i gynnal gweithdy gyda rhai o blant Garnedd. Cawson brofiad i’w drysori. Diolch yn fawr am ddod acw i’r Garnedd.


Brogaod y Garnedd

plant

 

Newyddion gwlyb o’r Garnedd! Mae’r pwll wedi ei sefydlu ac yn llawn penbyliaid. Mae’r plant wrth eu boddau yn mynd at y pwll i ryfeddu at fyd natur. Diolch i Miss Jenny am ei harweiniad.

 

 

 

 


Nepal

plant

 

Daeth Mr Arwyn Oliver i’r ysgol yn ddiweddar i gyflwyno gwybodaeth am Nepal. Cafwyd llawer iawn o wybodaeth diddorol a bu i bawb fwynhau’r cyflwyniad. Yn sgil hyn bu i’r Cyngor Ysgol benderfynu y byddai’n syniad da i gynnal diwrnod di-wisg ysgol am gyfraniad o £1 y teulu er mwyn codi arian i helpu teuluoedd Nepal ar ôl y daeargrynfeydd diweddar . Llwyddwyd i gasglu £285.17 tuag at yr achos. Diolch i bawb am gefnogi.

 

 


Lowry
Aeth Bl. 3 a 4 Ysgol Y Garnedd i ganolfan Lowry yn Manceinion ar Dydd Mercher Mai 13eg 2015. Bu i bawb fwynhau yn arw, roedden yn caru gweld y lluniau. Hefyd oedden yn hoff iawn o Jack a’i ffrindiau yn ein dysgu am L.S Lowry. Toc roedd hi’n amser cinio. Bu i ni gael cyfle i weld ffilm a, L.S Lowry - roedd llawer o blant yn hoff o’r ffilm. Yr oedd y siwrne yn cymryd tua 1 awr a hanner i 2 awr. Cawsom lawer o hwyl ar y bws yn canu caneuon e.e Uptown funk neu Aderyn Melyn! Ac ar ddiwedd y dydd aethom i’r siop, roedd y siop yn llawn o bensiliau, Da Da’s, Pad Ysgrifennu ac pethau fel na. Ar y ffordd nôl roedd pawb wedi blino. Roed gan pawb lawer o hanesion i’w adrodd ar ôl cyrraedd adref. Roedd yn ddiwrnod werth i gael!!!!
Gan Cian Bl4


Cwis Llyfrau
Llongyfarchiadau i bedwar o ddisgyblion blwyddyn 6 (Mathew Jones, Dewi Jones, Gwen Roberts ag Ela Vaughan Roberts) am gynrychioli’r ysgol yn ddiweddar yng nghystadleuaeth y Cwis Llyfrau. Bu’n rhaid i’r pedwar ohonynt ddarllen a thrafod dau lyfr cymraeg sef ‘Cyfrinach Ifan Hopcyn’ a ‘Myfi Morris Y Faciwi’, a chawsont ganmoliaeth uchel gan y beirniad am drin a thrafod y llyfrau yn ddeallus, cywir ac aeddfed. Da iawn


Llongyfarchiadau
Yn ystod mis Ebrill ganwyd Hogan fach, Isla June i Mrs Rhian ac Adrian Richardson (Bl 1 a 2), chwaer fach newydd i Leo.  Llongyfarchiadau a dymunwn yn dda iddynt fel teulu.


Sêr Y Wifren Wîb

Ar ddydd Iau, Ebrill 2ail, aeth Seren Owen a Cerys Goggin (dwy o ddisgyblion blwyddyn 6) i Zip World Bethesda i gymryd her y wifren wib. ‘Roedd Seren a Cerys wedi penderfynu wynebu’r sialens yma i godi arian i elusen Tîm Irfon ac i godi arian i adran chwaraeon Ysgol Y Garnedd. Roedd hi’n ddiwrnod eithaf gwyntog ac aeth mam a nain Seren i lawr y wifren wib hefyd! Diolch i deulu a ffrindiau am gefnogi. Casglodd y genod dros £500! Ardderchog!

 

 

 

 


Parc y Faenol


Cyn gwyliau’r Pasg aethon ni am dro unwaith eto i Barc y Farnol i chwilio am arwyddion o’r gwanwyn.  Gwelsom ŵyn bach yn y cae a blagur ar y coed a môr o Gennin Pedr.  A gwir i chi roedd cwningen y Pasg wedi gadael wy bach siocled i ni.  Roedd ambell un wedi gweld ei chynffon yn diflannu drwy’r gwrych!

 

 

 


Pêl Droed

TÎm pêl-droed merched A

TÎm pêl-droed merched B

TÎm pêl-droed bechgyn A

TÎm pêl-droed bechgyn B

Pêl droed Merched
Ar nos Lun, Ebrill 20fed, aeth tîm pêl-droed merched blynyddoedd 5 a 6 i Borthmadog i gystadlu yn nhwrnamaint pêl-droed 7 bob ochr yr Urdd ar gyfer ysgolion cynradd ardal Eryri. Chwaraeodd y tîm yn dda ym Mhorthmadog gan ddod ar frig y grŵp a sicrhau lle yn y rownd gynderfynol. Yn anffodus colli o  1-0 fu’r hanes yn y rownd honno. Serch hynny, ‘roedd pawb wedi mwynhau’r noson o bêl-droed!
Cyn y twrnamaint pêl-droed ym Mhorthmadog daeth tîm pêl-droed merched Ysgol Y Felinheli atom i’r ysgol i chwarae cyfres o gemau cyfeillgar yn erbyn tîm A a thîm B. Cafwyd pnawn da o bêl-droed a diolch i Ysgol Y Felinheli am ddod draw. Gobeithio y cawn ni gyfle i chwarae eto yn fuan. 

Pêl droed Bechgyn
Ar nos Fawrth, Ebrill 28ain, tro tîm pêl-droed bechgyn blynyddoedd 5 a 6 oedd hi i deithio draw i Borthmadog i gystadlu yn nhwrnamaint pêl-droed 7 bob ochr yr Urdd ar gyfer ysgolion cynradd ardal Eryri. Fel tîm y merched, chwarae yn dda, ennill y grŵp ond colli o 1-0  yn y rownd gynderfynol fu hanes tîm y bechgyn hefyd! Hanes yn ail adrodd! Reit dda hogia. 
Cyn y twrnamaint ym Mhorthmadog daeth tîm pêl-droed bechgyn Ysgol Nant Y Coed o Gyffordd Llandudno draw atom i’r ysgol i chwarae cyfres o gemau cyfeillgar yn erbyn tîm A a thîm B. Cafwyd pnawn da o bêl-droed a diolch i Ysgol Nant Y Coed am ddod. Gobeithio y cawn ni gyfle i chwarae eto yn fuan.   


Ymweliadau adran 5 a 6 â’r Wylfa
Ganol mis Ebrill aeth tri dosbarth adran 5 a 6 yn eu tro ar ymweliad â Chanolfan Addysg Atomfa’r Wylfa. Yn ystod yr ymweliad dysgom am drydan a chylchedau trydan. Cafodd pawb hefyd gyfle i wneud gwahanol gylchedau trydan. Dangosodd yr athrawon i ni sut mae trydan yn cael ei gynhyrchu a sut mae trydan yn teithio. Cafodd y tri dosbarth yn eu tro ddiwrnodau ardderchog a gobeithio y cawn fynd ar ymweliad â’r Wylfa eto yn fuan.
Isabelle a Leah


Dyn Tan
Bu Mr Lance Williams o’r Gwasanaeth Tân yn trafod diogelwch gyda’r plant.  Bu’n sôn bod angen ffonio 999 os oes tân yn y tŷ a bod y Gwasanaeth Tân yn helpu os oes damwain car neu ddamwain cwch ar y môr.  Rhoddodd waith cartref i’r plant sef dysgu eu còd post a gofyn i mam a dad edrych os ydy’r larwm tân yn gweithio yn y tŷ.  Cawsom hwyl yn dysgu.


Trawsgwlad
Ar ddydd Iau, Ebrill 23ain, aeth criw da o blant Y Garnedd i Barc y Faenol i redeg rasys traws gwlad yr Urdd ar gyfer ysgolion cynradd Eryri, Môn a Chonwy. Yn ffodus ymddangosodd yr haul – ‘roedd hi ychydig bach rhy boeth i redeg - ond well i ni beidio cwyno! Roedd bron i gant o blant yn cymryd rhan ymhob ras. Am bump o’r gloch dechreuodd y ras gyntaf, ras merched blwyddyn 3. Yna rhedodd y bechgyn a’r merched ei rasys am yn ail hyd cyrraedd ras olaf y noson, ras bechgyn blwyddyn 6. Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd ran.
Matilda a Gwen.


Eisteddfod

Eisteddfod Cylch Ogwen
Llongyfarchiadau i ddisgyblion yr ysgol sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn Eisteddfod Cylch Ogwen yn ddiweddar. Dyma’r canlyniadau:

Unawd Bl 2 ac Iau - Fflur Edwards, 1af
Unawd Bl 5 a 6 - Ela Roberts, 1af
Deuawd Bl 6 ac Iau - Ela Roberts a Non Fon, 1af
Côr Bl6 ac Iau - Côr y Garnedd, 1af
Parti Deulais, Bl 6 ac Iau - Parti’r Garnedd, 3ydd
Ensemble Lleisiol Bl 6 ac Iau - Parti’r Garnedd, 1af
Cyflwyno Alaw Werin Bl 6 ac Iau - Fflur Edwards, 3ydd
Unawd Piano Bl 6 ac Iau - Lisa Morgan, 1af
Unawd Pres Bl 6 ac Iau - Lisa Morgan, 1af
Unawd Cerdd Dant, Bl 2 ac Iau - Morgan Tecwyn Williams, 2il
Dawns Werin Bl 4 ac Iau - Dawnswyr Gwerin y Garnedd, 2il
Grŵp Hip-Hop/Stryd/Disgo Bl 6 ac Iau - Dawnswyr y Garnedd, 1af
Llefaru Unigol Bl 5 a 6 - Non Fon Davies, 2il
Can Actol – 1af
Gwaith Creadigol 2D Bl 5 a 6 - Alys McCann – 1af
Gwaith Creadigol 2D Bl 6 ac Iau AA - Grŵp Billy - 1af
Print Lliw Bl 3 a 4 - Lisa Morgan – 1af
Cyfres o brintiau lliw Bl 3 a 4 - Lisa Morgan - 2il

Eisteddfod y Sir
Yn dilyn y llwyddiant yma, fe fu'r canlynol yn llwyddiannus yn Eisteddfod y Sir.

Unawd Bl 5 a 6 - Ela Roberts, 2il
Deuawd Bl 6 ac Iau - Ela Roberts a Non Fon, 1af
Côr Bl6 ac Iau - Côr y Garnedd, 3ydd
Ensemble Lleisiol Bl 6 ac Iau - Parti’r Garnedd, 1af
Unawd Piano Bl 6 ac Iau - Lisa Morgan, 3ydd
Unawd Pres Bl 6 ac Iau - Lisa Morgan, 2il
Dawns Werin Bl 4 ac Iau - Dawnswyr Gwerin y Garnedd, 3ydd
Llefaru Unigol Bl 5 a 6 - Non Fon Davies, 1af
Can Actol – 1af
Gwaith Creadigol 2D Bl 6 ac Iau AA - Grŵp Billy - 1af
Print Lliw Bl 3 a 4 - Lisa Morgan – 1af
Cyfres o brintiau lliw Bl 3 a 4 - Lisa Morgan - 1af

Pob lwc i’r rhai buddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol mis Mai, a diolch yn fawr i’r holl athrawon am eu gwaith caled a thrwyadl.

plant
plant
plant
plant
Dawnsio Disgo
Dawnsio Gwerin
Ensemble
Cân Actol

Cymdeithas Rhieni ac Athrawon

Bu’r Gymdeithas yn brysur yn pacio bagiau yn Morrisons ar ddydd Sul Mawrth 8fed 2015 gan gasglu ychydig dros £440. Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n brysur ar y diwrnod yn cefnogi’r ymgyrch.


Taith bl.6 i Gaerdydd gan Glesni Williams a Mia Jones

Ar y 4ydd o Fawrth aethon ni i Gaerdydd! Cymerodd pum awr a hanner i gyrraedd yno, arhosom yn wersyll yr Urdd Caerdydd. Yn gyntaf aethom i Pwll Mawr tu allan i Gaerdydd lle gwelsom lawer iawn o lo Cymreig. Roedd rhaid i ni wisgo helmed gadarn gyda thorch arno gan ei bod yn dywyll o dan y ddaear. Bu i ni ddysgu llawer iawn am y Pwll Mawr e.e. roedd y ceffylau yn aros o dan y ddaear ac oedd plant yn dod i weithio ar y drysau o oed ifanc iawn.

Ar ôl hynny aethom i Ganolfan yr Urdd i ddadbacio ein pethau. Yn yr ystafelloedd roedd yna tri gwely bync. Hefyd roedd yna en-suite ym mhob ystafell a silffoedd i gadw ein dillad. Yn y bwyty roedd yna lawer o fyrddau a lle i gael dŵr neu sudd. Hefyd yn Wersyll yr Urdd roedd yna beiriant gwerthu diodydd a siocled yn ogystal â bwrdd pwl. Ar ôl bwyd ar y noson gyntaf aethom i fowlio 10. Cyn mynd i’n gwlâu ar y noson gyntaf cawsant hanner awr o amser ein hunain.

Ar yr ail ddiwrnod yng Nghaerdydd aethom i’r Cynulliad. Cawsom drafodaeth am ddiodydd egni ac os byddai’n well cael lleiafswm oedran i’w prynu. Cawsant bleidleisio i weld beth oedd barn pawb am stopio hysbysebu am ddiodydd egni ar raglenni teledu plant. Pleidleisiodd y rhan fwyaf o blant o blaid stopio’r hysbysebu. Ar ôl mynd i’r Cynulliad aethom yn ôl i Wersyll yr Urdd. Cawsom focsys bwyd i fynd gyda ni ac i fwyta ar y bws i Sain Ffagan. Yn Sain Ffagan dysgom a gwelsom bethau difyr iawn. Cawsom fynd i mewn i dŷ ‘pre-fab’ a dysgu dipyn amdano. Ar ôl cyrraedd yn ôl i Wersyll yr Urdd cawsom gyfle i wylio DVD ‘Sbongebob Squarepants’ cyn mynd i gysgu.

Ar ein diwrnod olaf yng Nghaerdydd aethom i Stadiwm y Mileniwm. Cawsom weld ystafelloedd newid y timau, a hefyd cael y cyfle i eistedd mewn seddi pobl bwysig. Yna mynd yn ôl adref ar y bws.

san ffagan
plant
Sain Ffagan
Stadiwm y Mileniwm

PC Dylan Pritchard

pc pritchard

Daeth PC Pritchard i siarad am bethau sydd yn gywir ac anghywir ac am reolau. Soniodd y plismon bod rheolau’n cadw ni yn ddiogel ac yn dysgu ni i fod yn blant da. Esboniodd gem trwy hwyl gyda lluniau cywir ac anghywir. Roedd rhaid rhoi bawd i fyny neu fawd i lawr os oeddem ni yn cytuno . Rydw i wedi dysgu llawer gan PC Pritchard.
Seren Mathias-Mitchell
Blwyddyn 2

 

 


Ein trip i Tesco

Ar Chwefror y 23ain cawsom fynd ar ymweliad i Tesco ym Mangor.

Bu i ni gael llawer o brofiadau da yma. Yn gyntaf cawsom gyfle i siapio bara ein hunain. Yna aethom i’r oergell ac ysgrifennu ar bapur faint o nwyddau sy’n cael eu cadw yn yr oergell.

A’r ôl hynny cawsom gyfle i flasu’r rhai o ffrwythau anghyffredin e.e. Sharon fruit, lime a ‘coconut.’
A’r ôl blasu’r ffrwythau cawsom gyfle i flasu gwahanol fathau o gaws fel ‘Smoked Chedder’, Caws Coch ,Caws Cyffredin, Caws Edau a chaws gyda nionod a phersli - roeddynt yn fendigedig. Yna ar ôl cael blasu’r bwydydd bu i ni ddychwelyd yn ôl i’r ysgol.
Bu i bawb fwynhau pob dim!!!

Gan
Swyn Griffith, Madlen Jones, Elin Mair ac Elin Wyn .
Bl3 a Bl4.

Mr Lolipop
Daeth Mr Arwel, ein dyn lolipop draw i  ddosbarth Derbyn i son am ddiogelwch y ffordd.  Tynnodd sylw at bwysigrwydd gwrando, edrych a chroesi gan afael yn llaw oedolyn.
Diolch am ddod atom i’r dosbarth Derbyn, byddwn i gyd yn ofalus yn croesi’r ffordd o hyn ymlaen.


Myfyrwyr
Diolch i’r Myfyrwyr a ddaeth atom i’r cyfnod sylfaen.  Cafodd y plant lond troll o brofiadau newydd ganddynt.  Pob dymuniad i’r dyfodol i chwi Miss Davies (Blwyddyn 1 a 2) a Miss Williams (Derbyn).


Wythnos Ryngwladol
Cawsom wythnos i’w gofio!
Roedd dosbarth Derbyn yn dysgu am Rwsia, Blwyddyn 1 a 2 yn dysgu am Tsieina, Blwyddyn 3 a 4 yn dysgu am Fecsico a Blwyddyn 5 a 6 yn dysgu am India.
Roedd pob dosbarth yn dysgu am ddiwylliant y gwledydd hyn.  Cawsom gyfle i brofi rhai o’r bwydydd, i ddawnsio a dysgu ychydig am iaith y gwledydd.
Diolch i’r cyngor Ysgol am drefnu wythnos ddiddorol i ni'r plant.

Rwsia

Bu’r plant dosbarth Derbyn yn dawnsio Calinc a ballet  dwy’r wythnos.  Roeddem yn dweud Sbasibia yn lle dweud diolch.  Cawsom goginio Bortsh a chafodd pawb ei brofi.  Bûm yn edrych ar waith yr artist Kandinsky a chawsom i gyd gyfle i efelychu ei waith lliwgar.

 

 

 


Tsieina

Bu plant Bl. 1 a 2 yn dysgu am Tsieina.  Roedd y ‘Rhen Huwcyn eisiau dysgu am wlad ei gefnder y Panda.  Daeth Mrs Jean Marshall, Nain Loti, Will a Gruff  i siarad a dangos lluniau am ei thaith i Tsieina.  Fe ddysgodd pawb lawer o wybodaeth newydd.  Trefnwyd i’r plant i gyd fynd i Fu’s i brofi a blasu bwyd Tsieniaidd.  Cafwyd croeso mawr yna a chafwyd hwyl a sbri yn ceisio bwyta gyda gweill bwyta.

 

 

 

 

 

 

 

 


Mecsico

Roedd 3 a 4  yn ysgol y Garnedd yn cael parti Mecsicanaidd. Roedd hi’n wythnos ryngwladol ac roedd pawb yn cael hwyl yn waldio’r piniata ac yn cael blasu bwydydd gwahanol. Doedd neb mewn gwisg ysgol, ond roedden nhw mewn gwisg roedd pobl o Fecsico yn gwisgo e.e. Poncho, sombrero ac ambell i fwstash. Dysgon ni lwyth am yr Aztecs a'r rhyfel rhwng Sbaen ac yr Aztecs. Ar ôl gweld patrymau'r Aztecs cawsom ni hyd yn oed wneud patrymau Aztecs yn defnyddio pensiliau lliw ac redden nhw’n arbennig o dda. Dysgon bach o Sbaeneg  yn  nosbarth Mr Efans. Roedd pawb wedi blasu bwydydd o Fecsico. Roedd yna Doritos, chilli a llawer o bethau blasus eraill.

 


India

Ar gychwyn yr wythnos cyn hanner tymor, dywedodd ein hathrawon ein bod am fod yn dathlu Wythnos Ryngwladol yr ysgol drwy ddysgu am India. Ar y Dydd Mawrth, bu plant 5 a 6 yn enwi taleithiau India. Yn y dasg yma cawsom  fap o India ac efo’r map roeddem yn nodi’r taleithiau yn ein llyfrau thema. Ar ôl y dasg yna, cawsom waith Saesneg darllen a deall am eni Ganesh, duw enwog y Hindŵiaid.  Wedyn cawsom gyfle i dynnu llun o Ganesh a dysgu beth oedd pwysigrwydd gwahanol rannau o’r llun. I wneud y diwrnod yn arbennig  cawsom fwyd Indiaid  wedi ei goginio gan staff y gegin. Roedd y cinio’n  flasus iawn ac roedd pawb yn ei hoffi, roedd holl ddisgyblion a staff yr ysgol yn ddiolchgar iawn i staff y gegin a gwaeddodd pawb diolch am y bwyd yn ystod amser cinio. Er mwyn dathlu’r  diwrnod olaf gwisgodd disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 mewn gwisgoedd traddodiadol o’r India. Cawsom i gyd llond trol o hwyl yn dathlu’r Wythnos Ryngwladol

 


Gymnasteg

Bu 6 o ddisgyblion (Twm Owen, Ifan Sion, Loti Marshall, Alys Banham, Tesni Owen ac Eluned Owen) yn cystadlu mewn cystadleuaeth Gymnasteg Urdd Rhanbarth Eryri.  Da iawn chi blant am gynrychiolo’r ysgol gyda gymnasteg o safon uchel iawn. 
Bu i Loti Marshall ac Ifan Sion ddod yn fuddugol gan fynd ymlaen i’r rownd derfynol.  Llongyfarchiadau mawr i’r ddau am wneud yn wych.

 

 

 

 

 

 

 

 


Pictiwrs Bach
Daeth criw mawr yng nghyd i fwynhau ac ymlacio gyda’i gilydd gan wylio film. Byddwn yn cael noson debyg eto Mawrth 25.


Dydd Gŵyl Dewi

Dydd Gŵyl Dewi Dydd Gŵyl Dewi

Fel rhan o ddathliadau dydd Gŵyl Dewi'r ysgol, trefnodd y Clwb Coginio ginio arbennig ar gyfer y staff. Roedd yna gawl cennin, bara a chawsiau Cymreig a chacen gri i orffen. Cafwyd cefnogaeth ardderchog i’r cinio a rhoddwyd rhodd o £75 i Gymorth Cristnogol. Dyma’r ryseitiau:

 

Cacen Gri - cliciwch yma
Cawl Tatws a Chennin - cliciwch yma

 


Gala Nofio Genedlaethol yr Urdd 
Bu tîm nofio'r ysgol yn cystadlu yng Ngala Nofio Genedlaethol yr Urdd yn ddiweddar gan gael llawer o lwyddiant. Mae cyrraedd y rowndiau Cenedlaethol yn gamp yn ei hun ond daeth nifer o nofwyr y Garnedd i’r brig. Isod mae aelodau o’r tîm nofio .
Blwyddyn 3/4 Bechgyn – Twm Owen, Osian Glyn Williams, Ifan Siôn, Rhys Jones,
Merched – Jessica Parry, Lisa Morgan, Seren Gross, Madlen Jones

Blwyddyn 5/6 Bechgyn – Owen Roberts, Osian Barnes, Ben Davies, Deio Williams
Merched – Efa Williams, Cerys Goggin, Manon Jones, Seren Owen

Bu i bawb wneud yn arbennig o dda ac mae’r canlyniadau i’w gweld yn llawn ar wefan yr Urdd.
Daeth y nofwyr canlynol yn 1af,2il neu yn 3ydd.

Merched  Bl.3/4 – Dull Rhydd
1af Jessica Parry  
Merched Bl.3/4 – Cefn
1af Jessica Parry
Merched Bl.3/4 – Broga
2il Lisa Morgan
Merched Bl.3/4 – Pili Pala
1af Lisa Morgan
Bechgyn Bl.3/4 – Cefn
1af Twm Owen
Bechgyn Bl.3/4 – Pili Pala
1af Twm Owen


Rasus Gyfnewid      
1af Bechgyn Bl.3/4 – Dull Rhydd  (Twm Owen, Osian Glyn Williams, Ifan Siôn, Rhys Jones)
1af Merched Bl.3/4 – Dull Rhydd (Jessica Parry, Lisa Morgan, Seren Gross, Madlen Jones)
1af Merched B.3/4 – Cymysg (Jessica Parry, Lisa Morgan, Seren Gross, Madlen Jones)
Llongyfarchiadau mawr i bawb a diolch yn fawr iawn i bawb a fu o gymorth yn hyfforddi a chludo’r disgyblion i Gaerdydd.

 

 

 

 

 


Mae rhamant  yn y Garnedd
Dathlwyd diwrnod Santes Dwynwen ar ddydd Gwener, Ionawr 23.  Diolch i’r Cyngor Ysgol am drefnu bod pawb yn gwisgo pinc neu goch.  Buom yn chwythu swsus i bawb drwy’r dydd a chawsom ddisgo yn ystod y pnawn.  Gawn ni hefyd longyfarch Mr Griffith am ddyweddïo gyda Gwenan ar ddydd Santes Dwynwen.  SWSUS MAWR!


Dosbarth Derbyn
Bu plant y dosbarth Derbyn am dro yng nghaeau Briwas yn chwilio am Sioni Rhew.  Nid oedd yno'r diwrnod yna ond roedd yno ddigon o fwd!  Cawsom gyfle i chwilio am adar a’u henwi.  Yn drist iawn gwelsom lawer o sbwriel.  Buom yn gweiddi “Rhowch eich sbwriel yn y bin”!


Ymweliad yr heddlu.
Bu P.C. Dylan Pritchard yn trafod diogelwch y gyda disgyblion Blwyddyn 1 a 2.  Dysgodd y plant ble dylid cadw moddion a phwy sydd yn cael rhoi moddion iddynt.  Trafodwyd pa mor ddiogel oedd ffôn symudol, poteli tabledi, powdr golchi a Domestos.  Dysgwyd am bethau pwysig iawn. 


Shabwm.
Ar Ddydd Iau, Ionawr 22ain cawsom weld sioe newydd Cwmni Theatr Fran Wen yn neuadd yr ysgol . Enw’r sioe oedd ‘Shabwm’.
Roedd y stori am deulu yn dadlau .Erbyn diwedd y perfformiad roedd y teulu’n hapus unwaith eto ac roeddynt  yn ffrindiau gorau .
Dwi ‘ n siŵr bu pawb fwynhau’r sioe ddiddorol yma.
Madlen Jones, Osian Thomas a Carys Clement Evans ( 3 a 4 )


Y Trip Ysgol i’r Wylfa  - blwyddyn 5 a 6
Roedd ein trip ysgol i’r Wylfa yn gyffrous ac yn hwyl. Pan gyrhaeddom y ganolfan ‘roedd staff y Wylfa yno i’n croesawu. Mi roedd yna sticeri gwyn plaen a phensiliau ar y bwrdd a gofynnodd Tracey ( un o’r staff) i ni ysgrifennu ein henwau arnynt.
Rhannodd y staff bapurau plaen i ni wedyn a gofynnodd nhw i ni wneud llun syml o dŷ. Dywedodd Tracey wrthym ail gopïo llun y tŷ eto ond beth oeddem ddim yn gwybod oedd mai ei gopïo yn y tywyllwch yr oeddem yr ail dro! ‘Roedd hynny’n ddoniol iawn.  Ar ôl hynny siaradodd Tracey gyda ni am effaith golau ar ein  llygadau ni.
Yna siaradodd y staff gyda ni am wahanol ffynonellau goleuni cyn ein helpu ni i roi lluniau gwahanol ffynonellau goleuni i mewn i grwpiau;  naturiol,  gwnaethpwyd gan ddyn ac adlewyrchiad.
Dysgom wedyn am sut  mae golau yn teithio, a hynny mewn ffordd llawn hwyl gyda thorch a drych, ac ar ôl cinio dysgom am olau'r enfys ac am gysgodion hefyd.

Leah Hughes a Mia Jones

Sioeau Nadolig

Christmas shows Christmas shows


Pob cadair di werthu allan. Dim lle i fwy yn llety’r Garnedd!
Llwyddwyd llenwi’r neuadd 6 gwaith, 900 o docynnau.
Dawel Nos oedd sioe'r Adran Iau a Sioe’r Anifeiliaid oedd yr un Cyfnod Sylfaen.
Diolch i bawb am weithio mor galed.

 

 


Cinio Nadolig

Christmas Lunch

Llwyddodd Anti Heulwen y gegin a’i chriw fwydo 251 a 38 o staff. Cawson wledd i’w chofio. Rydym mor lwcus o griw hwyliog y gegin yn y Garnedd.

Daeth amser ffarwelio gyda Miss Heledd. Mae Miss Heledd wedi bod yn weinyddes yma yn y Garnedd ers dros 20 mlynedd! Mae plant Bodedern ar eu hennill! MAWR fydd ei cholled. Miss Heledd mi fyddwn yn eich cofio am byth!
Llongyfarchiadau I Mrs Delyth Roberts am lenwi’r bwlch yn y cyfnod Sylfaen. Edrychwn ymlaen cael ei chwmni yn yr ysgol
Rydym hefyd yn ffarwelio gyda Mr Llewelyn. Rydym wedi cael cwmni Mr Llywelyn am dymor. Mae Mr Llywelyn wedi gwneud yn siŵr ein bod i gyd yn fathemategwr. Diolch yn fawr a brysiwch nôl i’n gweld.

 

 

 


Pantomeim – Patagonia gan Ela Vaughan a Mathew Jones (bl.6)
Pantomeim “Patagonia”

Ar Ddydd Mawrth, Rhagfyr yr 16eg, aeth Ysgol y Garnedd i weld Pantomeim yn Neuadd Ogwen. Roedd rhai o Ysgol Glan Cegin yno hefyd. Enw’r Pantomeim oedd “ Patagonia”. Roedd y sioe, a oedd yn un dda iawn, yn sôn am y daith o Gymru i Batagonia yn 1865. Roedd llawer o wahanol bethau yn digwydd yn y pantomeim gan gynnwys; jôcs, llewod, ac hyd yn oed brenin aur! Ein hoff ran o’r sioe oedd pan oedd y pwma yn troi’n ddyn go iawn. Roedd yr actorion yn dda iawn a roedd y set yn ardderchog. Roedd yna fand byw yn chwarae cerddoriaeth drwy’r perfformiad. Aethom i Fethesda ar 6 bws, rhai cyfforddus iawn. Roeddem yn cael canu a dawnsio gyda’r actorion. Yn fras dyma beth ddigwyddodd. Mae na bump o bobl ar long y Mimosa. Y capten oedd Capten Michael D. Lewis a roedd o a Chymry eraill eisiau teithio i Batagonia i ddarganfod gwlad newydd er mwyn creu gwladfa Gymreig a fyddai’n gwarchod yr iaith Gymraeg a’i diwylliant. Ond ar y ffordd mae un o’r llongwyr yn marw o ddiffyg bwyd a syched. Ond yn waeth mae’r Brenin Aur yn troi ei garchar wraig, Aurora yn aur, ac yn ei throi’n ddrwg. Mae’r llongwyr yn trio ei hachub, ac yn y diwedd maent yn llwyddo, ac mae’r Capten Michael. D . Lewis ac Aurora yn priodi. Buaswn yn rhoi 9 allan o 10 i’r pantomeim yma.


Grwp Gwyrdd

 

Dyma rai o’r plant oedd yn fuddugol yn llunio posteri i’w harddangos o gwmpas yr ysgol yn ein hatgoffa o egwyddorion bod yn wyrdd.

 



 


Malcolm Allen

Pan glywsom fod Malcolm Allen yn dod i’r ysgol roeddwn wedi cynhyrfu yn llwyr. Pan oeddent yn mynd mewn rhes i fynd i’r neuadd, am deimlad cynhyrfus!   I ddechrau siaradodd am ei bel oren lwcus ac am sut roedd yn dweud wrth y bel fynd i’r gôl ac roedd y bel yn mynd i’r gôl iddo yn yr ysgol! Roedd hefyd yn siarad am ei fywyd ac am fyw yn Deiniolen  fach a gyda’r iaith wych Gymraeg. Am ddarn doniol oedd pan siaradodd am fynd i Loegr lle'r oedd pawb yn siarad Saesneg a doedd e ddim yn dallt gair! A chael profiad gwych yn chwarae pêl-droed i dîm go iawn gyda miloedd o bobol yn syllu arno oherwydd roeddent erioed wedi ei weld o’r blaen yn chwarae. Roedd wedi mwynhau chwarae pêl-droed ond mewn un gêm cafodd ddamwain mawr wrth neidio a thrio penio'r bel i’r gôl a glaniodd ar i ben-glin chwith. Roedd yn gorfod mynd i lawer o ysbytai yna cafodd chwe sgriw yn ei ben-glin chwith mewn ysbyty yn Rwsia a dywedon doedd ddim yn cael chware pêl-droed  eto gyda thîm. Pan aethon allan gyda Malcom Allen cawson roi mewn grwpiau a thrio sgorio yn ei erbyn a cyn hynny dywedodd  fod dim un ysgol wedi sgorio yn  ei erbyn yna sgoriodd rhai o ohonynt a gyda’n gilydd sgorion  ddeg. Cyn iddo adael daeth pawb gydag ein gilydd i dynnu llun a gwaeddon SGORIO!


Mike Peters

 

Croesawyd Mike Peters, cyn aelod o’r Grŵp Alarm, i’r ysgol i godi ymwybyddiaeth o’r elusen ‘Awyr Las’.
Eglurodd ei fwriad i godi cyn gymaint o arian ag sy’n bosibl at bobl sy’n dioddef o gancr.  Roedd y plant yn ymateb yn wych i’w ganeuon - heb sôn am yr athrawon!
Mae Mike am gerdded o ysbyty Gwynedd I Ysbyty Maelor yn Wrecsam mewn un diwrnod.  Estynnodd wahoddiad i griw o blant gydganu gydag ef yn Ysbyty Gwynedd.
Diolch am ddod draw atom i’r Garnedd.  Hei lwc i ti Mike!

 

 

 

 

 


Shwmae Sumae
Cawsom lond trol o hwyl yn rhoi diwrnod ‘Shwmae Sumae’ ar galendr yr ysgol!
Cawsom brofiad i’w gofio - Flachmobio!!!
Bu’r adran Iau yn dawnsio ar fuarth yr ysgol i’r gan Sosban Fach o dan gyfarwyddyd cywrain Mrs Cheryl Roberts,  Diolch i Mr Carl Evans am ei roi ar gof a chadw a’i ffilmio o ben to’r ysgol
Yn wir, cawsom glip bach ar y rhaglen Heno!
Diwrnod i’w gofio!

Gwersi Hunan Amddiffyn – gan Owain Edwards a Llio Mutembo
Roedd pawb yn gyffroes pan glywon ni bod Sensei Brent Burman yn dod i roi gwers hunanamddiffyn i flwyddyn 3 a 4 Ysgol y Garnedd. Dysgom sut i edrych yn gryfach drwy roi ein hysgwyddau yn ôl ac edrych i fyw llygaid rhywun.  Ar gychwyn y wers dangosodd i ni sut i fynd ar draws ystolion ffug, nesa dangosodd sut i osgoi gwrthrychau defnyddiol drwy neidio a chamu. Gorffennodd y wers drwy weld os oeddem digon sydyn i osgoi ei law cyn i ni gael slap ganddo ond ddim yn rhy galed! Rydym yn ddiolchgar iawn bod o wedi dod a mi fuasai pawb yn  hoffi ei weld o’n dod eto.


Clwb Coginio

Ar ddiwedd mis Medi dechreuodd Mrs Owen a Mrs Gash Clwb Coginio i blwyddyn 5 yn Ysgol Y Garnedd. Dysgodd pawb sgiliau newydd. Y sgiliau newydd oedd gwasgu, rhwbio, cymysgu, gratio a pilio.  Y pryda rydym wedi coginio hyd at hyn yw Cws Cws gyda llysiau wedi ei rhostio, Crymbl Afal a Mwyar duon, Sgon Caws a Bisgedi Siocled. Mae’r clwb coginio pob dydd Mawrth 3:30 tan 4:30. Mae yna dwy wythnos arall ar ôl i goginio rhywbeth arall

 

 

 


Gwasanaeth Diolchgarwch 

Ar ddydd Mercher 22ain o Hydref, cerddodd plant yr ysgol gyfan I Gapel Newydd Berea ar gyfer wasanaeth Diolchgarwch.
Cafwyd eitemau canu gan bob adran a chanu torfol bendigedig.  Rhoddodd ein prifathro sgwrs ddifyr i ni am fasnach deg a llwyddwyd i gyrraedd nôl i’r ysgol yn weddol sych cyn y glaw mawr.

 

 

 

 

 

 

 

 


Ras Hwyiaid – Cymdeithas Rhieni ac Athrawon

duck race

Bore dydd Sadwrn, Medi'r 20fed daeth criw o blant a rhieni’r Garnedd i Abergwyngregyn yn eu welintons. Rhoddodd Mr Williams 346 o hwyaid yn y dŵr a dyna ni roedd y ras ar fynd!

Y dair hwyaden fuddigol oedd  1af hwyaden  Mrs Mari Roberts, 2il hwyaden Paul J Coetsworth ac yn 3ydd hwyaden Jo Hewitt.

 


Adroddiad Thema Bangor -  Nel Cooke Blwyddyn 5

Ar fore Dydd Llun braf ym mis Medi aeth blwyddyn 5 a 6 ar  drip i Fangor. Ein  thema'r tymor yma ydi Bangor ac felly aethom ar y  bws ymweld â’r Llyfrgell, Yr Eglwys Gadeiriol a’r Amgueddfa.
Rydw i yn aelod o ddosbarth  Miss Rigby a ni oedd y criw cyntaf  i fynd i’r Llyfrgell. Yn y Llyfrgell cawson sgwrs gan y llyfrgellydd a chyfle i holi cwestiynau am y llyfrgell. Yna dywedodd Miss Rigby wrthym am ddewis llyfr a chawsom ein cyfnod darllen yn y llyfrgell.  Dewisais lyfr am Fflopi’r ci.
Ar ôl gorffen yn y llyfrgell dyma ni’n croesi’r lôn a cherdded i’r Eglwys Gadeiriol. Cawsom gyfle i edrych ar du allan i’r adeilad. Roedd yn hardd iawn. Wedyn aeth pawb i mewn i’r eglwys a daeth y ficer i siarad efo ni am hanes yr eglwys. Buom yn eistedd yn seddau’r côr a chafodd Cêt  ac Osian wisgo i fyny mewn dillad ficer ac Esgob Bangor. Wedyn aeth Miss Rigby a ni i weld y Bedyddfaen, Y Ddarllenfa a’r Allor. Buom yn gwneud  rhwbiadau o’r teils hardd gyda chreonau i roi ar wal y dosbarth.
Ar ôl cinio dyma ni’n croesi’r lôn eto i fynd i’r Amgueddfa. Aeth fy ngrŵp i weld yr hen arteffactau .Roedd yn rhaid i ni wisgo menig piws i afael ynddynt  oherwydd eu bod nhw’n hen iawn. Roeddwn i’n hoffi’r garreg fawr, fawr oedd yno.
I fyny grisiau’r Amgueddfa roedd hen ddodrefn a lluniau diddorol. Roeddwn yn hoffi’r ystafell o Oes Fictoria a’r hen gadair bren i eistedd yn yr ardd.
Ar ôl gorffen yn yr Amgueddfa roedd hi’n amser mynd yn ôl i’r ysgol ar y bws. Roedd pawb wedi mwynhau’r trip i Fangor ac wedi  dysgu llawer iawn am y ddinas.


Adroddiad Gweithdy Childline gan Owen Huw a Dewi Jones Bl.6

Yr wythnos yma daeth Fiona o Childline i adran blwyddyn 5 a 6 i sôn am gadw’ n hapus a diogel tu allan ac yn yr ysgol. Daeth Ffiona ar y deuddegfed o Fedi ac y pedwerydd ar bymtheg o Fedi i sôn am Childline. Dechreuodd drwy roi cyflwyniad rhyngweithiol am sut mae Childline yn helpu plant sy’n cael eu bwlio neu cam-drin mewn unrhyw ffordd. Ar ddiwedd y cyflwyniad cafodd pawb daflen gemau gyda gweithgareddau hwyl  arno.  Ar y pedwerydd ar bymtheg o Fedi daeth Ffiona eto gyda chyflwyniad arall. Y tro yma roedd rhaid gweithio mewn grŵp i ddweud os oedd y frawddeg ar y sgrin yn rhywbeth  iawn i wneud neu ddim yn iawn i wneud , yna rhannodd Ffiona daflenni gyda “chatter box” a chwestiynau am bwy y rydym yn ymddiried ynddynt a beth sy’n ein gwneud yn hapus. Fe wnaethom i gyd fwynhau'r sesiynau ac mae Ffiona wedi codi ein hymwybyddiaeth o bwysigrwydd Childline.


Bore Goffi MacMillan

bore goffi macmillan
Erbyn 2.15pm bnawn Iau, Medi 25ain roedd byrddau’r neuadd yn llwythog o gacennau hyfryd a’r cwpanau’n barod.  Daeth nifer dda drwy’r drws rhwng hynny a phedwar o’r gloch a phawb yn cyfrannu’n hael.  Roedd yn braf gweld rhieni a neiniau a theidiau yn cael hamdden i sgwrsio cyn nôl eu plant, a’r plant wedyn yn cael dewis eu hoff gacen.  Rhwng dydd Iau -   dydd Gwener yn  ystafell athrawon - llwyddwyd i godi £180 tuag at achos Macmillan.  Diolch o galon i bawb a gefnogodd mewn unrhyw ffordd.

 

Eisteddfod Gadeiriol

Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol y Garnedd yn ystod yr wythnos olaf cyn yr haf.
Yn flynyddol mae cystadleuaeth y gadair yn agored i blant blwyddyn chwech.
Eleni, y  testun oedd ‘sgwennu stori am yr ieir sydd ar dir yr ysgol.

Yr Archdderwydd oedd y Parch Huw John Hughes a’r beirniad eleni oedd Mr Llion Williams (y pennaeth newydd).
Enillydd y gadair oedd Cian Jones efo Morgan Owen yn ail agos, Lewis Roberts yn drydydd a Siriol Hughes yn bedwerydd.
Canmolwyd y pedwar yn fawr iawn am safon eu  gwaith a’u dychymyg byw.

eisteddfod chair
trwmpedi eisteddfod y garnedd
eisteddfod y garnedd

Criced

criced hogia
Ar ddydd Llun, Mehefin 23ain, aeth tîm criced bechgyn blynyddoedd 5 a 6 a thîm criced merched blynyddoedd 5 a 6 i chwarae yn nhwrnament criced ysgolion cynradd Bangor, a gynhaliwyd ar gae criced Bangor. Chwaraeodd y ddau dîm yn dda a daeth y bechgyn yn ail yn y twrnament a thîm y merched yn gyntaf. Yn dilyn eu llwyddiant yn nhwrnament Bangor aeth tîm y merched draw i Bwllheli ar y dydd Mawrth dilynol (Mehefin 24ain) i chwarae yn nhwrnament ysgolion cynradd sir Gwynedd.
criced genod
Chwaraeodd y merched yn arbennig o dda ym Mhwllheli gan ennill y gystadleuaeth i’r timau merched. Yn Llaneurgain (Northop) oedd y rownd nesaf yn cael ei chynnal (i ysgolion cynradd Gogledd a Chanolbarth Cymru) a hynny ar ddydd Iau, Gorffennaf 3ydd. Chwaraeodd y merched yn dda iawn unwaith eto yn Llaneurgain (yn enwedig ar ôl cinio!) a gorffenodd y tîm yn y trydydd safle wedi gemau da ac agos yn erbyn ysgolion cynradd o ardaloedd Wrecsam, Yr Wyddgrug, Y Drenewydd ac Ewloe. Da iawn genod!

 


Mabolgampau

mabolgampau
Aeth criw da o blant o’r adran Iau lawr i Dreborth ar ddydd Mercher y 25ain o Fehefin i gystadlu ym mabolgampau ysgolion cynradd Bangor/Ogwen. Wedi bore da o gystadlu dychwelodd y darian i’r Garnedd unwaith eto eleni!  Da iawn wir!

 


Rygbi

trawsgwlad

Mae Mr Urdd wedi cael ffrindiau newydd! Dyma'r tîm rygbi a fu'n cystadlu'n y rowndiau terfynol yn Aberystwyth. Roeddent wedi perfformio'n rhagorol gan gyrraedd y rown cyd-derfynol - yr unig dîm o'r gogledd a'r canolbarth i wneud hynny! A oes na George North arall ymysg y criw yma?


Rhedeg Trawsgwlad Yr Urdd yn Aberystwyth

trawsgwlad

Oedran blynyddoedd 3 a 4.

Daeth Matilda, Freya a Gwawr yn gyntaf yn y ras tîm merched blwyddyn 4.

 

trawsgwlad

Oedran blynyddoedd 5 a 6.


Daeth Aled, Cian a Cai yn ail yn y ras tîm bechgyn blwyddyn 6. 
Daeth Cai yn 3ydd yn y ras unigol bechgyn blwyddyn 6.


Mr.Owen wedi cymeryd rhan yn ras feicio ETAPE Eryri

etape

Cymerodd Mr Arwel Owen, gofalwr Ysgol Gynradd Y Garnedd, Bangor, ran yn ras feicio ETAPE Eryri dydd Sul diwethaf, Mehefin 15fed. Beiciodd Mr Arwel 103 o filltiroedd er mwyn codi arian i’r ysgol. Llongyfarchiadau mawr iddo a diolch gan bawb yn Ysgol Y Garnedd!! 


 

Sgwad Rygbi Eryri
4 bachgen

 

 

Llongyfarchiadau i James Owen, Efan Mutembo, Cian Jones a Llyr Wyn Coyle am gael eu dewis i gynrychioli ysgolion Eryri. Maent wedi bod i lawr yn Llanidloes yn chwarae yn erbyn Islwyn. Sylwch bod chwaraewyr rygbi yn gwisgo’n smart!

 

 

 

 


Eisteddfod yr Urdd
Mae’r Eisteddfod Cylch a Sir wedi bod! Bellach, mae’r plant yn meddwl am y Bala ar ddiwedd mis Mai. Pob lwc i Marteg Dafydd fydd yn cystadlu ar y piano a’r Delyn. Bydd y côr, y parti llefaru a’r cyflwyniad dramatig yn cystadlu’n ogystal. Cafoddygrwp dawnsio gwerin Bl 3 a 4 drydydd yn y Sir.

Diolch o galon i bawb a fu’n cynorthwyo, yn hyfforddwyr athrawon a rhieni. Cewch wybod am ddyddiad y cyngerdd, yn nes at y Sulgwyn.


Gala Nofio
4 bachgen

 

 

Unwaith eto, dychwelodd y darian am y nifer mwyaf o bwyntiau i’r Garnedd. Cafodd y plant hwyl rhyfeddol yn y gala i ysgolion mawr Bangor/Ogwen.

 

 

 

 


Gala Nofio'r Urdd
tim y gala nofio

Llongyfarchiadau mawr i bawb fu’n cynrychioli’r Ysgol yn Gala Nofio Cynradd Cenedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd ddiwedd Ionawr. Roedd 17 o ddisgyblion wedi ennill yn y gystadleuaeth ranbarthol fis Tachwedd ac yn cael y fraint o gynrychioli Eryri yng Nghaerdydd.

Dyma’r prif ganlyniadau:

Rasys unigol:
Marteg Dafydd – Merched 5-6 Rhydd: 2il, Cefn: 2il Llion Myers – Bechgyn 5-6 Cymysg Unigol: 3ydd Lisa Morgan – Merched Bl. 3-4 Broga: 2il Twm Owen – Bechgyn Bl 3-4 Cefn: 5ed

 


Rasys cyfnewid:
Merched Bl. 5-6 Cyfnewid Rhydd (Efa Williams, Cerys Jones, Siwan Jones, Marteg Dafydd): 3ydd Bechgyn Bl. 5-6 Cyfnewid Rhydd (Osian Barnes, Llion Myers, Aled Oddy, Morgan Owen): 1af Merched Bl. 5-6 Cyfnewid Cymysg (Cerys Jones, Efa Williams, Marteg Dafydd, Siwan Jones): 3ydd Bechgyn Bl. 5-6 Cyfnewid Cymysg (Osian Barnes, Llion Myers, Cai Le Trobe Roberts, Aled Oddy): 4ydd Merched Bl. 3-4 Cyfnewid Cymysg (Jessica Parry, Lisa Morgan, Freya Evans, Matilda Boyle): 2il Bechgyn Bl. 3-4 Cyfnewid Rhydd (Rhys Meurig Jones, Ben Davies, Josh Pritchard, Twm Owen): 5ed

Llongyfarchiadau i’r nofwyr i gyd a diolch i’r rhieni fu’n hyfforddi ac yn cefnogi.


Clwb Coginio
Ar ôl ysgol ar ddydd Mawrth mae’r Clwb Coginio wedi bod yn brysur iawn yn coginio llawer iawn o fwydydd dros yr wythnosau diwethaf. Yr wythnos gyntaf rydym wedi bod yn coginio bisgedi Melys Melys Mwy. Roeddem wedi dysgu sut i ychwanegu hanner ŵy yn lle un cyfan. Un peth roeddwn yn ei wybod yn barod am goginio bisgedi oedd - peidio wastio dim byd. Yr ail wythnos fe wnaethom goginio Bisgedi Siocled. Fe wnaethom fwynhau'r bisgedi yn fawr iawn. Rydym yn edrych ymlaen at y wers goginio nesaf i weld be rydym yn ei goginio.


Cystadleuaeth Gymnasteg yr Urdd
plant

 

Llongyfarchiadau i blant Bl 3 a 4 a fu’n cystadlu yng Nghystadleuaeth Gymnasteg yr Urdd yng Nghaernarfon yn ddiweddar a Diolch i Gwyn Owen am eu hyfforddi.

 

 

 

 


SWS i bawb o’r Garnedd
Dathlwyd Diwrnod Santes Dwynwen mewn coch. Cafodd pawb glywed hanes Santes Dwynwen a chyfle i ddawnsio yn y disgo. Unwaith eto roedd yn ddiwrnod i’w gofio.


Dan 5
Aethom am dro i Gaeau Briwas drwy dair giât mochyn a llawer iawn o fwd! Diolch byth roeddem i gyd yn gwisgo ein ‘welis’. Gwelsom sawl aderyn bach ond yr un robin goch, bydd rhaid mynd eto cyn bo hir.


Bl 1 a 2
Bu plant Bl 1 a 2 yn dysgu am dylluanod tymor diwethaf. Daeth siaradwr o Ymddiriedolaeth Tylluanod Gogledd Cymru atom gyda thair tylluan go iawn. Gwelsom dylluan wen oedd ar ei thrip cyntaf mewn ysgol, tylluan frech a thylluan fechan, fechan o’r India. Cafwyd hwyl a sbri yn dysgu ffeithiau newydd.

 

Eisteddfod Gadeiriol Ysgol y Garnedd 2013

Cafwyd diwrnod i’w gofio yn y Garnedd eto eleni, daeth hi’n ddiwrnod Eisteddfod yr Ysgol. Enillydd y gadair eleni oedd Lois Wiliam. Ysgrifenned stori a hanner! Treuliodd Lois y diwrnod yn mynd â’i stori o gwmpas y dosbarthiadau i’r plant ei darllen a’i mwynhau. Yn wir, rydym yn siŵr o glywed enw Lois Wiliam yn y dyfodol. Cofiwch mai yma yn y Goriad y clywsoch ei henw am y tro cyntaf! Daeth Owain Jones yn ail a Medi Morgan yn drydydd. Llongyfarchiadau i’r tri ohonynt!
Diolch i Mr Ken Hughes am feirniadu a Dr Huw John Hughes am arwain y seremoni eto eleni.

Bu genethod a bechgyn blwyddyn 2 yn perfformio’r Ddawns Flodau a pharti’r WAW Ffactor yn canu Cân yn Cadeirio. Morgan, Cian, Aron a James oedd yn canu’r Cyrn Gwlad. Lewis , Llion, Siwan a Nia oedd y Cyfarchwyr a Heulwen a Christopher yn Gyrchwyr.

llun plant
llun plant
llun plant

Caerdydd

plantBore Llun, Ebrill 22 am 8 o’r gloch aeth plant Bl6, Ysgol y Garnedd i gyd ar y bws i Gaerdydd. Am sŵn oedd ar y bws! Pawb yn sgrechian a chael hwyl yn gwrando ar gerddoriaeth yr iPods.

Ar ôl taith hir o Fangor stopiodd y bws yn Mhwll Mawr i ddechrau’r trip. Roedd y staff yn garedig iawn yno ac yn hoff o’i jôcs! Wedi i ni gael y daith dan ddaear fe ail gychwynnodd y bws i wersyll yr Urdd, Caerdydd.

Cawsom ddiwrnod llawn eto ddydd Mawrth wrth i ni grwydro o gwmpas Sain Ffagan. Yn y pnawn aethom i Stadiwm y Mileniwm. Cawsom gyfle i eistedd yn seddi gorau’r Stadiwm ac yn ogystal ymweld ar crach flychau moethus! (hostpitalities). Yn dilyn hynny cawsom hwyl garw yn gwylio ‘The Croods’ yn y pictiwrs!

I orffen y trip teithiom o amgylch y bae mewn cwch. Nid oedd yr Ysgol wedi cynnig y gweithgaredd hwn o’r blaen felly roedd yn brofiad newydd. Unwaith roeddem ni nôl ar y lan fe gerddom heibio Ganolfan y Mileniwm i'r Cynulliad a chael llawer o hwyl yn creu cyfraith newydd! Cawsom becyn bwyd gan gogyddion y gwersyll a dyna drip Caerdydd ar ben. Roedd yn drip gwerth chweil a diolch i’r athrawon am drefnu’r daith!

Gan Ela a Lois


Newyddion Chwaraeon

Tîm pêl-droed 7 pob ochr Ysgol y Garnedd
y tim

Mae’r bechgyn wedi cael llwyddiant eleni wrth guro cystadleuaeth yr Urdd ym Mhorthmadog. Nawr, byddant yn mynd i’r rowndiau terfynol yn Aberystwyth ar Fai 11eg.

Maent hefyd wedi cael y cyfle i chwarae yn erbyn Academi Clwb pêl-droed Dinas Bangor. Diolch i Mel Jones, rheolwr yr Academi am y cyfle.

 

 

 

Pêl-droed Merched Blynyddoedd 5 a 6

tim A tim B
Hoffai dau dîm pêl-droed merched blynyddoedd 5 a 6 ddiolch i dîm merched Ysgol Y Felinheli am ddod draw atom i’r Garnedd yn ddiweddar i chwarae pedair gêm gyfeillgar.

Gobeithio y cawn ni y cyfle i chwarae yn erbyn ein gilydd eto yn fuan.
Tîm pêl-droed A
Tîm pêl-droed B
 


Aeth tîm pêl-droed A draw i Borthmadog ddechrau mis Ebrill i gymryd rhan yn nhwrnament pêl-droed 7 bob ochr yr Urdd ar gyfer ysgolion cynradd Eryri. Chwaraeodd y tîm yn dda ym Mhort gan ennill eu gêm agoriadol o 2-0 (Mia a Mali yn sgorio!), a chael dwy gêm gyfartal 0-0 yn y ddwy gêm ddilynol. Diolch yn fawr i Sion, tad Mali a Nanw, am helpu gyda’r cludiant

Traws Gwlad
3 plentyn

Aeth criw da o blant y Garnedd i stâd y Faenol i gystadlu yn Rasus Trawsgwlad yr Urdd. Roedd plant blwyddyn 3 a 4 yn rhedeg mil o fetrau a phlant Bl 5 a 6 yn rhedeg mil a hanner. Derbyniodd pawb fedal. Daeth Cai La Trobe yn gyntaf yn y ras i fechgyn blwyddyn 5 a Cian Jones yn drydydd . Cafodd Matilda Boyle drydydd yn y ras i enethod blwyddyn 3. Llongyfarchiadau i bawb

 

 



Rygbi
tim rygbi

 

Ar ddydd Mercher, Ebrill 24 aeth naw aelod o dîm rygbi’r Garnedd i gystadlu yng Nghaernarfon yn nhwrnamaint rygbi’r Urdd. Chwaraeodd Aled Oddy, Cai La Trobe, Cian Jones, Efan Mutembo, Gwion Sion, Llyr Wyn Coyle, Owain Feaver, Sam Byrne-Jones a James Owen pum gêm gan guro tair a cholli dau. Cyrhaeddodd y tîm y semi-ffeinal a sgorio un cais yn syth, ond yna bu i’r Ffor sgorio 3 cais yn y pum munud olaf.

Gan Cai La Trobe ac Aled Oddy

 

 


Ymweliad dosbarth Derbyn a Pharc y Faenol
Mor braf oedd cael mynd yn ôl i Barc y Faenol i chwilio am arwyddion o’r Gwanwyn. Gwelsom gennin Pedr a blagur ar y coed, ac roedd yr haul yn dod i’r golwg bob hyn a hyn.

Ar ôl gwneud ein gweithgareddau roedd hi’n amser cinio, a phawb yn bwyta llond ei fol. Digwyddodd rhywbeth rhyfedd iawn ar ôl cinio. Gwelodd Mrs Dwyfor gynffon a chlustiau yn diflannu lawr at y Fenai - roedd Cwningen y Pasg wedi bod! Cafwyd helfa wedyn i ddod o hyd i’r wyau ac yna buom yn eu sglaffio!

Gan Lois a Tilly

 

Wylfa – Gweithdy Grymoedd

Rhwng dydd Llun 11eg o Fawrth a dydd Mercher 14eg o Fawrth 2013, aeth dosbarthiadau Blwyddyn 3 a 4 Ysgol y Garnedd i Ganolfan Wylfa i wneud gwaith ar rymoedd. Cawsom lawer o hwyl yn gwneud gwahanol weithgareddau. Un o’r gweithgareddau oedd adeiladu pont a dysgu am densiwn y bont. Dysgom mai Thomas Telford oedd adeiladwr pont Borth. Buom hefyd yn mesur ffrithiant ein esgidiau gan ddefnyddio mesurydd Newton. Yn ogystal a hynny, dysgom fod gan fagnedau begwn y De a’r Gogledd. Yn y weithgaredd parasiwt, gwelsom fod ein gwalltiau yn codi gyda’r parasiwt ac yn creu static.

Enwau’r bobl oedd yn ein dysgu yn y Ganolfan Wylfa oedd Tracy, Linda, Carol a Cheryl. Roedd y bedair ohonynt yn fonheddig a chlên iawn. Diolch yn fawr iawn iddyn nhw am ein dysgu ni.

Gan Catrin, Eluned ac Owen Thomas


Clwb Coginio’r Garnedd

clwb cinio

Ar yr 28ain o Chwefror fe aeth clwb coginio’r Garnedd ati i goginio pryd o gawl cennin, bara ffres a chaws Cymreig I staff yr ysgol. Roedd gan bawb ddyletswyddau fel plicio tatws, glanhau’r cennin a throelli’r cawl bob hyn a hyn. Gan fod gymaint o gawl roedd angen dwy sosban fawr! Mwynhaodd pawb wneud y cawl ac roedd y pryd yn llwyddiannus iawn, wrth i bob aelod o staff fynd allan o’n bwyty bach ni gyda gwen ar eu hwynebau.

Ar gyfer cystadleuaeth ‘Y Gacen Orau’ aethom ati i greu myffins banana a chnau pecan. Gwnaeth grŵp A (Coginio Cŵl) goginio myffins banana a chnau pecan. Coginiodd grŵp B (Cogwyr Cymreig) fyffins blas llys a lemon. Crëwyd myffins blas mafon a chwstard gan dîm C (Myffins Moethus). Er na chawson ni wobr, cawsom hwyl garw yn eu gwneud!

Gan Lois a Tilly


Diwrnod DVD’s
plant a dvds
Ar ddydd Gwener, Chwefror 8fed cynhaliwyd diwrnod cyfnewid DVD’s gan y Grŵp Gwyrdd. Roedd y diwrnod yn llwyddiannus iawn a roedd pob plentyn wedi mwynhau wrth gyfnewid ei dvd. Casglwyd dros £250 ac mae’r grŵp gwyrdd yn bwriadu ei wario ar ‘ Ardd Wyllt y Garnedd’. Diolchwn i bawb a gyfrannodd i’r diwrnod a gobeithio bydd pob plentyn yn mwynhau eu dvd newydd

Gan Lois a Mali Bl 6


 


Gala Nofio

gala nofioAr ddydd Sadwrn, Ionawr 26ain, cynhaliwyd Gala Nofio Cenedlaethol yr Urdd, yng Nghaerdydd.

Roedd deunaw o blant Ysgol y Garnedd wedi teithio i’r Brifddinas. Cawsant ganlyniadau ardderchog.

Diolch i Jên Dafydd am gymryd gofal ohonynt ar ochr y pwll, ac am drefnu sesiynau hyfforddi, cyn y gala. Diolch hefyd i’r rhieni am eu cefnogaeth arferol.

Dyma’r canlyniadau:
Dwy râs gyfnewid bechgyn bl 5 a 6 (cymysg a rhydd) Gruff Boyle, Mathew Maxwell Morris, Harri John Williams, Aled Oddy a Llion Myers – 2 gyntaf.

Dwy râs gyfnewid genethnod bl 5 a 6 (cymysg a rhydd) Marteg Dafydd, Medi Morgan, Leah Williams a Lauren Williams – 2 gyntaf

Ac felly pedair râs gyfnewid ar bedair yn cael eu hennill gan y Garnedd. Da ynte!

Cafodd genethod bl 3 a 4 drydydd yn y râs gyfnewid cymysg a 4ydd yn y ras dull rhydd sef, Efa Williams, Cerys Goggin, Seren Owen a Gwen Roberts.

Daeth hogia bl 3 a 4 yn ail yn y râs gyfnewid, dull rhydd, sef Owen Roberts, Deio Evans Williams, Josh Pritchard ac Osian Barnes. Yn ogystâl roedd Wil La Trobe yn aelod o’r tîm ddaeth yn chweched yn y râs dull cymysg.

Llongyfarchiadau mawr i bawb.