Croeso i wefan Ysgol y Garnedd
Croeso i wefan Ysgol y Garnedd. Wrth bori trwy y gwahanol adrannau cewch gyfle i ddod yn fwy ymwybodol o fywyd a gwaith yr ysgol.
Mae Ysgol y Garnedd yn ysgol gymunedol benodedig Gymraeg sy’n gwasanaethu dinas Bangor a phentrefi cyfagos Tal-y-bont a Llandygái. Bellach daw cryn dipyn o’i disgyblion o’r tu hwnt i’w thalgylch arferol. Mae tri chant pedwar deg a thri o blant sydd ynddi a daw eu hanner o gartrefi di-Gymraeg. Ymfalchïwn yn y ffaith fod rhieni Cymraeg a di-Gymraeg yn dymuno i’w plant gael addysg ddwyieithog dda mewn awyrgylch Gymreig. Ac mae sicrhau’r ethos hwnnw’n bwysig iawn.
Cân Y Garnedd
Ac mae'r haul yn codi beunydd dros y Garnedd,
yn bwrw'i wrid dros doeau llwyd y stryd.
Gyda'n gilydd cerddwn ninnau yn ei lewyrch,
yn ein chwarae, yn ein gwaith, yn wên i gyd.
Gan Plant y Garnedd
Ein Gwerthoedd
Creadigol
Egwyddorol
Iach