CRHA

Mae’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn yr ysgol yn rhoi cyfle i rieni, athrawon a chyfeillion yr ysgol gydweithio er lles y disgyblion. Bydd y gymdeithas yn cynnal amrywiol weithgareddau yn ystod y flwyddyn ac yn codi rhai miloedd o bunnoedd i brynu offer i’r ysgol yn flynyddol. Bydd y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn cynnal cyfarfodydd yn rheolaidd – hysbysir chwi o’r dyddiad drwy neges destun ac mae croeso i unrhyw riant fynychu’r cyfarfodydd.

Nod Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol y Garnedd yw cefnogi'r ysgol a chodi digon o arian i brynu adnoddau ychwanegol er budd y disgyblion. Gyda’r arian a godir, rydyn ni’n cyfrannu at dripiau ysgol, talu am wersi nofio i ddisgyblion blwyddyn 2 am dymor. Rydyn ni wedi talu am grysau T a chapiau nofio ar gyfer tîm nofio’r ysgol, adnoddau i’r Clwb Coginio, cyfleoedd i ddisgyblion Uned Awtistiaeth yr ysgol feithrin sgiliau cymdeithasol. Rhoddwyd arian i’r ysgol adeiladu sied a chreu gardd i’r plant. Un o’r nodau ar hyn o bryd yw codi digon o arian i greu parc antur i’r holl ddisgyblion a hynny ar gais y disgyblion eu hunain.

Criw bach, gweithgar sydd wrthi’n trefnu’r holl weithgareddau bob blwyddyn, ac mae gennym raglen lawn o weithgareddau cymdeithasol - o helfa drysor i noson bingo, o Pictiwrs Bach, y Ras Hwyaid i Ffair Nadolig a Ffair Haf bob blwyddyn. Mae’r gweithgareddau yn boblogaidd iawn ymysg rhieni a phlant yr ysgol.

Mae’r pwyllgor yn cael llawer o hwyl wrth drefnu’r gweithgareddau ond mae angen syniadau newyddarnon ni a mwy o aelodau ar y pwyllgor felly pam na ddowch chi i’r cyfarfod nesaf. Fe gewch neges destun yn rhoi gwybod i chi pryd mae pob cyfarfod - croeso cynnes i bawb! Ac os na allwch ddod i’r cyfarfodydd, dowch i gefnogi’r gweithgareddau a helpu drwy wirfoddoli i helpu yn ystod rhai o'r gweithgareddau neu roi gwobrau ar gyfer amrywiol gystadlaethau a rafflau. Mae’n gyfle i bawb fwynhau eu hunain a chymdeithasu!

Os ydych chi am wirfoddoli i helpu mewn unrhyw weithgaredd neu os oes gennych chi syniad da am sut i godi arian i’r ysgol, cysylltwch drwy anfon neges e-bost at rhieniathrawongarnedd@hotmail.co.uk

Ffyrdd eraill o godi arian:

Clwb 200 - ymaelodwch â’r Clwb 200 am dâl penodol a chael cyfle i ennill gwobr bob mis! Cliciwch yma am ffurflen.

Siopa ar y we drwy wefan Easyfundraising - rhaid cofrestru’n gyntaf er mwyn i’r cyfraniadau ariannol fynd i goffrau Ysgol y Garnedd ac yna siopwch yn llawen ac yn llon! http://www.easyfundraising.org.uk/register/

Chwilio ar y we drwy Easysearch - unwaith eto, rhaid cofrestru cyn defnyddio’r peiriant chwilio hwn http://ysgolygarnedd.easysearch.org.uk/