Cylch y Garnedd
Mae cwmni Ffalabalam Cyf yn gofrestredig gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac yn aelod o Mudiad Meithrin, Clybiau Plant Cymru a NDNA. Mae’r cwmni yn gyfrifol am ddarparu gofal ac addysg i blant oed 2 a hanner i 4 mlwydd oed yn y Cylch Meithrin, gofal dros ginio i blant Meithrin yn y Clwb Cinio a gofal i blant oed Meithrin i flwyddyn 6 yn y clwb ar ôl ysgol a chlwb gwyliau.
Nôd y cwmni yw galluogi pob plentyn sy’n mynychu’r Cylch i fwynhau bywyd hapus, iach a diogel gan dderbyn addysg cyn ysgol o’r radd flaenaf a chael y dechrau gorau posib ymhob ffordd. Mae’r Cylch ar agor rhwng 8.50am - 11.00pm ac 1.00pm - 3.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor ysgol. Arolygir y Cylch gan AGC ac Estyn.
O 11.00am a 1.00pm, darperir gofal i blant oed Meithrin yr ysgol yn y Clwb Cinio.
Clwb Ffrindiau Ffalabalam
Mae gwasanaeth y clwb ar ôl ysgol ar gael o 2.50pm – 6.00pm i blant dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6. Mae’r plant sy’n mynychu’r Clwb yn cael dewis o ystod eang o weithgareddau : chwarae gemau, ymlacio, chwarae gemau cyfrifiadurol, cymryd rhan mewn gweithgareddau a gemau tu allan.
Darperir byr bryd iach ar gyfer bob plentyn gan ymateb yn llawn i unrhyw anghenion dietegol.
Darperir gofal i blant 2 a hanner o 11.00am ar safle Ffalabalam ar Ffordd Penrhos.
Clwb Gwyliau
Mae’r Clwb Gwyliau ar agor o 8-6 o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod gwyliau ysgol oni bai am ddyddiau Gwyl y Banc a gwyliau Nadolig yr ysgol. Mae croeso i blant oed Meithrin i flwyddyn 6 fynychu’r Clwb Gwyliau am ddyddiau llawn neu sesiynnau hanner diwrnod.
Os hoffech wybodaeth pellach a manylion cofrestru am un o’r sesiynnau uchod cysylltwch trwy ebost neu ffôn:
swyddfa@ffalabalam.co.uk 01248 352555
cylchgarnedd@ffalabalam.co.uk 01248 352534
|