School Council

2017 – 2018 School’s Council

Y Cyngor Ysgol (Welsh only)

Ni ydy criw y Cyngor Ysgol 2018 – 2019 Ysgol y Garnedd.

Rydym wedi cael ein hethol gan blant ein dosbarthiadau er mwyn eu cynrychioli yn y cyfarfodydd. Rydym yn cyfarfod sawl gwaith mewn hanner tymor. Byddwm yn gwrando a trafod ffyrdd o wella’r ysgol, ac yn trefnu gweithgareddau gwahanol hefyd.

 

Cyngor Ysgol 2018 – 2019
 

Amcanion y Cyngor Ysgol
I roi cyfle i’r disgyblion wella bywyd ysgol ar gyfer pob un.
I roi cyfle i ddisgyblion weithio mewn partneriaeth gyda staff a Llywodraethwyr er mwyn datblygu cymuned ysgol sy’n gofalu am bob un.
I roi cyfle i ddisgyblion ymarfer a datblygu sgiliau sy’n eu paratoi ar gyfer bod yn rhan o’r gymdeithas ehangach.
I roi cyfle i ddisgyblion ddatrys problemau a goresgyn gwrthdaro yn yr ysgol.
I gyfrannu i gynnwys y CDY

Cyfrifoldebau’r Cynrychiolwyr
Bydd disgwyl i’r cynrychiolwyr adrodd yn ôl i’w dosbarth yn dilyn cyfarfodydd. Disgwylir iddynt gynrychioli barn y dosbarth ac nid eu barn personol yn unig.
Rydym yn annog y dosbarthiadau i ddysgu am wledydd ar draws y byd er mwyn cymharu a dysgu gan ein gilydd.

Yr Aelodau
Awel, Fflur, Emily, Jessica, Lowri, Seren, Griff, Elgan, Elen, Ani, Summer, Seth, Ellie, Fflur, Ben, Nia, Harri, Hawys, Gruff.

Our aim for the year:

Tymor 1
Tymor 2
Tymor 3
Plant Mewn Angen
Talent y Garnedd
Wythnos Rhyngwladol

logo siarter iaith


Gwynedd Primary Schools Welsh Language Charter (Welsh only available)

Mae Siarter Iaith Gymraeg Ysgolion Cynradd Gwynedd yn deillio o waith manwl y Gweithgor Dylanwadu ar Ddefnydd Cymdeithasol Plant o’r Gymraeg. Ei phrif ddiben yw sicrhau bod y Gymraeg, a defnydd cymdeithasol ein plant a phobl ifanc ohoni yn ffynnu. Defnyddir saith nôd y siarter fel offerynnau i fesur cynnydd yn y defnydd o’r iaith ynghyd â llwyddiant cynlluniau ein hysgolion.



Information about the Welsh Language Charter - click here

Ysgol Y Garnedd Outcomes 2016 - click here (Welsh only available)