Urdd

Mae’r Urdd yn flaenllaw ym mywyd yr ysgol, bydd gweithgareddau i blant o Blwyddyn 1 – 6, yn ystod tymor y Nadolig, fel arfer ar nosweithiau Iau
.
Anfonnir rhaglen i rieni yn nechrau Medi. Bydd cyfle i blant blwyddyn 5 a 6 fynychu gwersylloedd Glan Llyn a Llangrannog yn nhymor yr haf.
Byddwn yn cystadlu’n flynyddol yn yr Eisteddfodau, ar amrediad o gystadlaethau e.e. cân actol, cyflwyniad dramatig, dawnsio disgo, canu, llefaru a’r testunau cartref fel celf a chrefft, llenyddiaeth a barddoniaeth.
Cymerir rhan mewn cystadlaethau chwaraeon megis pêl-droed, rygbi, pêl-rwyd, gala nofio a mabolgampau Cylch Bangor/Ogwen ac Eryri.
Dyma ddyddiadau pwysig i'w cofio :-
Eisteddfod Cylch yr Urdd Dan 12 oed - Ysgol Dyffryn Ogwen – 07/03/2020
Celf a Chrefft yr Urdd (Cylch) - Ysgol Cae Top – 23/03/2020
Celf a Chrefft yr Urdd (Sir) – i'w drefnu
Eisteddfod Symudol yr Urdd – 11/03/20
Eisteddfod Sir Eryri yr Urdd Dan 12 oed – Neuadd Goffa, Criccieth – 31/03/20
Eisteddfod Sir Eryri yr Urdd Dan 12 oed – Neuadd PJ – 28/03/20
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Dinbych – 25/05/20 – 29/05/20
|