Ysgol Iach

logo ysgolion iach

Mae cynllun ‘Ysgolion Iach’ Gwynedd yn cael ei reoli mewn partneriaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, Cyngor Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd Lleol.

Mae’r cynllun yn galluogi ysgolion i gyfrannu’n bositif tuag at iechyd a lles eu disgyblion, athrawon a’r gymuned ehangach drwy ddatblygu amgylchedd sy’n hyrwyddo iechyd.



Mae ‘Ysgolion Iach’ yn cyflwyno agweddau iechyd a lles drwy’r:-
• Cwricwlwm Cenedlaethol
• Cwricwlwm cudd ac ethos yr ysgol
• Datblygu ar y cysylltiadau sydd yn bodoli eisoes rhwng y cartref, y gymuned ac asiantaethau arbenigol

Rydym yn falch iawn fel Ysgol i’ch hysbysu ein bod wedi derbyn y “Wobr ansawdd Ysgolion Iach”. Rydym yn hyrwyddo’r holl agweddau iach ym mywyd a gwaith yr ysgol o ddydd i ddydd.

Bydd y Cyngor Ysgol a’r Grŵp Eco Gwyrdd yn cymryd cyfrifoldeb am yr agweddau yma.


Pecyn Bwyd Iach

logo newid am oes
Mae’r Cyngor Ysgol wedi bod yn trafod cynnwys y pecynnau bwyd y plant ers tro. Os ydych plentyn yn cael pecyn bwyd hoffem i chwi gael golwg ar y pecyn ‘newid am oes’. Mae’n llawn syniadau da a maethlon - cliciwch yma

 


Golchi Dwylo

poster

Diolch i’r Cyngor Ysgol mae pob dosbarth yn brysur yn dysgu am lanweithdra. Mae pawb erbyn hyn yn deall pwysigrwydd glanweithdra yn enwedig ar ôl bod yn y toiled. Dyma boster sy’n ein hatgoffa yn yr ysgol sut i olchi dwylo - cliciwch yma

 

 


Hyrwyddo ffitrwydd a lles – Clwb ‘Dal i fynd’
Rydym yn rhedeg ar y trac unwaith pob diwrnod.  Mae hyn yn rhoi egni i’r plant i barhau gyda’r gwaith ar lawr  y dosbarth.   Mae ymchwil  yn cefnogi   bod angen symud y corff a bod hyn yn help i ganolbwyntio ar lawr y dosbarth.


Parc Antur

Mae yna amserlen fel bod pob dosbarth yn cael cyfle i fod yn gorfforol brysur a gwthio ffiniau ar yr offer.  Dyma un o hoff lefydd y plant yn yr ysgol! Yn anffodus ni ellir ei ddefnyddion ym mhob tywydd

 

 

 

 

 

 

 


Cyfaill Caredig

Plant Blwyddyn 1 a 2 sy’n cael y ddyletswydd yma gan helpu i ddatrys problemau a gofalu  ofalu bod pawb yn hapus.  Maent yn gwisgo ffedog fel bod pawb yn eu hadnabod.


 

 

 

 

 



Ffrwythau
Rydym yn annog y plant i ddod â ffrwyth i’r ysgol.  Yn y Cyfnod Sylfaen maent yn cael cyfle i fwyta’r ffrwyth yn ystod y caffi ac yn yr Adran Iau clustnodir  amser penodol i hyn.


Yfed Dŵr

Rydym yn annog y plant i yfed dŵr yn ystod y dydd gan bwysleisio mor bwysig ydy hyn i’n iechyd.  Mae yna ffynnon ddŵr ym mhob dosbarth, a gall Uned Dan 5 ddefnyddio un mewn dosbarth cyfagos.

 

 

 

 

 

 

 


Y Gorlan

Dyma ardal gysgodol y  tu allan.  Cawn gyfle i gael amser cylch, caffi a gwasanaethau dosbarth yno.  Mae’n le delfrydol i ymgynnull allan yn yr awyr agored.