Ysgol y Garnedd, Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd LL57 2LX |
YsgolMae Ysgol y Garnedd yn ysgol gymunedol benodedig Gymraeg sy’n gwasanaethu dinas Bangor a phentrefi cyfagos Tal-y-bont a Llandygái. Bellach daw cryn dipyn o’i disgyblion o’r tu hwnt i’w thalgylch arferol. Mae tri chant pedwar deg a thri o blant sydd ynddi a daw eu hanner o gartrefi di-Gymraeg. Ymfalchïwn yn y ffaith fod rhieni Cymraeg a di-Gymraeg yn dymuno i’w plant gael addysg ddwyieithog dda mewn awyrgylch Gymreig. Ac mae sicrhau’r ethos hwnnw’n bwysig iawn. Daw’r dysgwyr i siarad Cymraeg yn rhyfeddol o rwydd gan gofio mai proses yw dwyieithrwydd sy’n cael ei meithrin dros gyfnod o amser, ac adlewyrchir hynny ym mholisi iaith yr ysgol. Erbyn cyrraedd diwedd eu cyfnod yn yr ysgol y mae’r plant yn hyderus yn y ddwy iaith. Ac mae digonedd o dystiolaeth yn dangos bod disgyblion sydd wedi derbyn addysg ddwyieithog gytbwys yn elwa’n fawr. Rydym yn ffodus bod gennym Gylch Meithrin a Chlwb y Garnedd ar dir yr ysgol sy’n cynnig gwasanaeth ychwanegol a gwerthfawr. Un o’m prif flaenoriaethau fel Pennaeth yw gwarantu bod plant yn hapus yn yr ysgol – trwy ymarfer disgyblaeth deg, disgwyl gradd uchel o ymddygiad, ymateb yn gadarnhaol i unrhyw fwlio a gwrando ar sylwadau’r plant, e.e. trwy gyfrwng y Cyngor Ysgol. Pan mae plant yn hapus daw llwyddiant. Ein sialens fwyaf ydi sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd ei botensial. Ac i’r perwyl hwnnw, rydym fel ysgol yn dal i ddatblygu’n dulliau addysgu ac yn mynnu disgwyliadau uchel. Yn olaf, mae partneriaeth dda rhwng yr ysgol â’r cartref yn hanfodol, a phwysleisiaf fod yr egwyddor o gael ‘drws agored’ yn bwysig tu hwnt.
Yn ôl adroddiad diweddar gan PLASC rydym yn ysgol categori A –Cyfrwng Cymraeg. Pan dderbynnir newydd-ddyfodiad di-Gymraeg i’r ysgol, fe sicrheir eu bod yn hapus a’n gartrefol cyn gwneud pob ymderch i ddysgu’r Gymraeg iddynt, cyn gynted ag sy’n bosib, er mwyn iddynt gymryd eu lle’n naturiol ym mywyd yr ysgol a’r gymdeithas. Polisi dwyieithog yw polisi Cyngor Gwynedd a meithrin dwyieithrwydd cyflawn yw nod y polisi hwnnw. Amcenir at wneud plant yn ddwyieithog erbyn iddynt gyrraedd oed ymadael â’r ysgol yn un ar ddeg. Bydd y rhan fwyaf o waith yr Uned Plant dan 5 trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth i blentyn symud trwy’r ysgol bydd y glorian ieithyddol yn newid: erbyn Blynyddoedd 5 a 6 bydd y defnydd o’r ddwy iaith yn gyfartal, ac adlewyrchir hynny yn eu llyfrau gwaith. Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymuned eang. Gwneir y gorau bob amser i sicrhau bod pob disgybl yn teimlo’n rhan o deulu’r ysgol. Ymfalchïwn fod y mwyafrif o ymwelwyr â’r ysgol yn cydnabod yr ymdeimlad o gyfeillgarwch a disgyblaeth sy’n bodoli yn yr ysgol, a’r modd y bydd y disgyblion newydd yn ymgartrefu’n fodlon a buan. Ceir awyrgylch ddiwyd yn y dosbarthiadau ac fe’i hatgyfnerthir gan arddangosfeydd o waith y plant. Bydd hyn yn dangos parch at waith ac ymdrechion y disgyblion ac yn sicrhau amgylchedd ysgogol a deniadol. Yn yr arolwg diwethaf gan Estyn (Hydref 2000) nodwyd bod ‘datblygiad ysbrydol, moesol a chymdeithasol y disgyblion yn dda iawn. Mae’r ysgol yn gymuned ofalgar, groesawus a threfnus.’ Nodir gwerthoedd yr ysgol ar boster sy’n cael ei arddangos ym mhob dosbarth: Yn ein hysgol ni rydym ni’n
CÂN Y GARNEDD Weli di wawr hapusrwydd ar wynebau, Ac mae’r haul yn codi beunydd dros y Garnedd, Glywi di heniaith yn llawn bywyd ifanc, Ac mae’r haul yn codi beunydd dros y Garnedd, Deimli di’r gwres ar aelwyd glòs yr ysgol, Llion Jones a Pwyll ap Siôn Cliciwch yma i weld Cynllun GAD 2014/15
|